Luis Jorge Fontana

ysgrifennwr, person milwrol, daearyddwr, fforiwr (1846-1920)

Swyddog milwrol, fforiwr ac awdur o'r Ariannin oedd Luis Jorge Fontana (19 Ebrill 184618 Hydref 1920). Ef oedd llywodraethwr cyntaf talaith Chubut a sylfaenydd dinas Formosa.

Luis Jorge Fontana
Ganwyd19 Ebrill 1846 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1920 Edit this on Wikidata
San Juan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, fforiwr, daearyddwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Chubut Province Edit this on Wikidata

Ganed Fontana yn Buenos Aires, mab Luis María Fontana, swyddog mewn llywodraeth Juan Manuel de Rosas, a Doña Irene Burgeois, a symudodd ei deulu i Carmen de Patagones pan oedd yn ieuanc, Yn dair ar ddeg oedd aeth yn bentis yn y fyddin yn nhalaith Río Negro. Ymladdodd yn y rhyfel a Paragwâi, cyn dychwelyd i Buenos Aires i astudio. Dychwelodd i'r fyddin, a chymerodd ran yn y gwaith o fforio'r Chaco, gan sefydlu dinas Formosa yn 1879.

Yn 1884 pendodwyd ef yn llywodraethwr cyntaf tiriogaeth newydd Chubut. Yn 1885 arweiniodd daith cwmni a elwid y Rifleros del Chubut, oedd yn cynnwys nifer o Gymry o'r Wladfa, i fforio rhan uchaf Dyffryn Camwy i gyfeiriad yr Andes. Ar y daith yma y cafwyd hyd i'r diriogaeth a alwyd yn valle 16 de Octubre, neu Cwm Hyfryd i'r Cymry. Roedd yn amlwg yn ardal ffrwythlon, a threfnwyd i wladychwyr Cymreig symud yno o ran isaf Dyffryn Camwy, gan sefydlu tref Trevelin.

Cyhoeddiadau golygu

  • Gran Chaco
  • 1883: Viaje de exploración al río Pilcomayo
  • 1886: Estudio sobre el caballo fósil
  • 1908: Los cuadrúpedos y las aves de la región andina
  • 1912: Ad ovo