Roedd Lydia (Groeg Λυδία) yn ardal yng ngorllewin Anatolia, fwy neu lai yn cyfateb i daleithiau Izmir a Manisa Province yn Nhwrci fodern. Y brifddinas oedd Sardis (Twrceg: Sart). Ar un adeg roedd Lydia yn deyrnas oedd yn rheoli rhan helaeth o Anatolia.

Lydia
Mathgwlad ar un adeg, teyrnas, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasSardis Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1200 CC (tua) Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lydian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 30°E Edit this on Wikidata
Map
Arianstater Edit this on Wikidata
Teyrnas wreiddiol Lydia
Map o ymerodraeth Lydia

Sefydlwyd teyrnas Lydia wedi i Ymerodraeth yr Hethiaid ymrannu yn y 12g CC.. Yr enw gwreiddiol oedd Maionia (Maeonia); mae Homeros yn cyfeirio at y Meiones yn yr Iliad.

Y mwyaf adnabyddus o frenhinoedd Lydia oedd Croesus, oedd yn enwog am ei gyfoeth. Talodd am adeiladu Teml Artemis yn Effesus, oedd yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd. Yn 546 CC roedd Croesus yn dymuno ymosod ar Ymerodraeth Persia. Cyn gwneud hynny, yn ôl yr hanesydd Groeg Herodotus, gyrrodd gennad i Delffi i ofyn barn yr oracl yno. Ateb yr oracl oedd, pe croesai Croesus Afon Halys, byddai'n dinistrio ymerodraeth fawr. Cymerodd Croesus hyn fel arwydd i fynd ymlaen a'i ymgyrch, ond gorchfygwyd ef gan Cyrus Fawr, brenin Persia. Gwireddwyd geiriau'r oracl; ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd gan Croesus oedd ei ymerodraeth ef ei hun. Daeth Lydia yn un o daleithiau Ymerodraeth Persia.