Lynn Ungoed-Thomas

gwleidydd Llafur

Roedd Mr Ustus Syr Arwyn Lynn Ungoed-Thomas (29 Mehefin, 1904 - 4 Rhagfyr, 1972) yn Fargyfreithiwr, yn Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri a Gogledd Orllewin Caerlŷr ac yn Farnwr yr Uchel Lys [1]

Lynn Ungoed-Thomas
Ganwyd29 Mehefin 1904 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1972 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, barnwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodDorothy Wolfe Edit this on Wikidata
PlantJasper R. Ungoed-Thomas Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Ungoed-Thomas yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch Evan Ungoed-Thomas, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a Katherine (née Howells) ei wraig.

Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin ac yna'n myfyriwr yng Ngholeg Haileybury, Rhydychen a Choleg Magdalen, Rhydychen.

Bu'n chwarae rygbi i Brifysgol Rhydychen, Cymru Llundain ac ym 1924 bu ar y fainc dros dîm rhyngwladol Cymru.

Ym 1933 priododd Dorothy ferch Jasper Travers Wolfe bu iddynt dau fab ac un ferch.

Gyrfa golygu

Galwyd Ungoed-Thomas i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1929, fe'i codwyd yn Cwnsler y Brenin ym 1947 ac yn Feinciwr ym 1951. Bu'n aelod o Gyngor Cyffredinol y Bar o 1946 ac yn Gadeirydd Gymdeithas y bar yn Siawnsri.

Ym 1959 aeth i Pretoria ar ran Justice yr adran Brydeinig o Gomisiwn Rhyngwladol y Cyfreithegwyr fel arsyllwr ar yr achos llys yn erbyn Nelson Mandela ar gyhuddiad o fradwriaeth.[2]

Gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor Uthwatt ar Ddiwygio'r Drefn Brydlesol ym 1948 a bu'n aelod o Pwyllgor ar Lysoedd Marsial y Llynges ym 1949.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yng nghatrawd y Magnelwyr Brenhinol gan ddringo i reng Uwchgapten.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Yn etholiad cyffredinol 1945 safodd Ungoed-Thomas fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Llandaf a'r Barri, cipiodd y sedd gyda mwyafrif mawr oddi wrth y Ceidwadwyr. Erbyn yr etholiad nesaf ym 1950 diddymwyd Llandaf a'r Barri a fu'r etholaeth olynol Y Barri yn llawer mwy ymylol; gan hynny penderfynodd Ungoed-Thomas sefyll yng Nghaerfyrddin etholaeth ei fagwraeth, ond fe fu'n aflwyddiannus yn ei ymgais a llwyddodd yr Aelod Rhyddfrydol, Rhys Hopkin Morris i dal y sedd o 187 pleidlais.

Ychydig fisoedd wedi'r etholiad dyrchafwyd Terence Norbert Donovan AS Llafur Gogledd Orllewin Caerlŷr yn farnwr, gan achosi ei ymneilltuo o'r Senedd; dewiswyd Ungoed-Thomas fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer yr isetholiad; llwyddodd i gael ei ethol ac i ddal y sedd hyd 1962 pan gafodd ef, hefyd, ei dyrchafu'n farnwr a gorfod ymneilltuo o'r Senedd.[3]

Ym 1949 bu'n aelod o'r ddirprwyaeth i Brydain i Gyngor Ewrop lle fu'n dadlau'n gryf o blaid sefydlu Llys Hawliau Dynol Ewrop. Fe fu hefyd yn gefnogwr brwd i Brydain ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd gan lythyru i'r Times yn achlysurol i hyrwyddo'r achos.

Gwasanaethodd fel y Twrnai Cyffredinol o 1951 hyd ddymchwel llywodraeth Attlee ym 1951[4]

Barnwr golygu

Fel Barnwr bu'n ymwneud a nifer o achosion pwysig gan gynnwys:

  • Ewyllys Adrian Golay [1965] 1 WLR 969, achos oedd yn ymwneud a pha mor eglur mae'n rhaid i dermau ewyllys bod.
  • Cunliffe-Owen v Teather & Greenwood [1967] 1 WLR 1421, Lle penderfynodd y barnwr gallasai telerau fod ymhlyg mewn contractau yn ôl arfer y farchnad y mae'r partïon contractio yn gweithredu ynddi.
  • Mann v Goldstein [1968] 1 WLR 1091 Lle benderfynodd y barnwr nad oedd modd i ddeiseb dirwyn cwmni i ben o achos dyled pan fo'r ddyled yn cael ei wadu.
  • Bushell v Faith [1970] AC 1099 Achos yn ymwneud efo tegwch wrth bleidleisio i gael gwared a rheolwr cwmni.
  • Hodgson v Marks [1971] Ch 892 achos ynghylch hawl person sydd â diddordeb teg mewn cartref i aros mewn meddiant, hyd yn oed os yw banc yn ceisio ei adfeddiannu. Gwyrdrowyd penderfyniad Ungoed-Thomas ar apêl.
  • Belof v Presssdram Ltd Achos lle'r oedd Norah Beloff, gohebydd gyda'r Observer yn honni i Private Eye torri ei hawlfraint trwy gyhoeddi nodiadau a wnaed ganddi parthed arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ar ôl sgwrs dim ar y record gyda William Whitelaw. Collodd Belof yr achos.[5]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn sydyn yn Llundain yn 68 mlwydd oed[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur, UNGOED-THOMAS, (ARWYN) LYNN (1904-1972) [1] adalwyd 10 Ionawr 2016
  2. "News in Brief." Times [London, England] 13 Jan. 1959: 11. The Times Digital Archive. Web. 10 Ion. 2016 [2] mynediad llyfrgelloedd cyhoeddus
  3. The Who's who of Radical Leicester Sir Lynn Ungoed-Thomas MP [3] adalwyd 10 Ionawr 2016
  4. UNGOED-THOMAS, Hon. Sir (Arwyn) Lynn’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 10 Jan 2016
  5. Copyright claim fails against Private Eye." Times [London, England] 19 Oct. 1972: 15. The Times Digital Archive. Web. 10 Jan. 2016. [4]
  6. "Mr Justice Ungoed thomas." Times [London, England] 6 Dec. 1972: 19. The Times Digital Archive. Web. 10 Jan. 2016. [5]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Cyril Lakin
Aelod Seneddol Llandaf a'r Barri
19451950
Olynydd:
dileu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
Terence Donovan
Aelod Seneddol Gogledd Orllewin Caerlŷr
19501962
Olynydd:
Tom Bradley