Creadures chwedlonol sydd yn byw yn y môr ac iddi gorff dynes a chynffon pysgodyn yw môr-forwyn.[1] Ymddengys y fôr-forwyn ym mytholeg a llên gwerin sawl diwylliant, ac fel arfer maent yn swyno morwyr a dynion eraill ac yn eu hud-ddenu i ddyfnderau'r môr. Mewn straeon cyfatebol, mae'r fôr-forwyn yn troi ei chefn ar ei chartref yn y môr ac yn ymrithio ar ffurf merch gyfan er mwyn cyplu â dyn y tir, ac yn y diwedd dyna dranc y pâr. Gelwir creadur tebyg a chanddo ffurf wrywaidd a chynffon pysgod yn forwas, morfab, neu forddyn.

Môr-forwyn
Delw o fôr-forwyn ddwygynffonnog ym Mhortmeirion.
Mathwaterwoman, merfolk Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmerman Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshuman torso, fin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Portreadir y fôr-forwyn mewn herodraeth fel arfer gyda gwallt melyn hir ac yn dal crib yn ei llaw dde a drych yn ei llaw chwith.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  môr-forwyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2019.