Llyn yn Ngalilea, yng ngogledd Israel yw Môr Galilea, hefyd Môr Tiberias, Llyn Tiberias a Llyn Genasaret (Hebraeg: כִּנֶּרֶת , «Kinéret). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan Syria.

Môr Galilea
Mathmonomictic lake Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJordan Rift Valley Edit this on Wikidata
SirTiberias Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd168 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr−211.08 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.818906°N 35.590033°E Edit this on Wikidata
Dalgylch273 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd21 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad15.8 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Môr Galilea yw llyn mwyaf Israel. Mae'n 21 km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166 km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa Afon Iorddonen i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw Tiberías ac Ein Gev.

Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes Cristnogaeth, oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth Iesu o Nasareth ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.

Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.