Cymeriad mewn chwedloniaeth Gymreig yw Mabon fab Modron. Dywedir ei fod yn nai i Arthur. Caiff ei uniaethu a'r duw Celtaidd Maponos, sy'n ymddangos mewn arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Uniaethir ei fam, Modron, a'r fam-dduwies Matrona.

Cai a Bedwyr ar gefn Eog Llyn Llyw yn cyrraedd carchar Mabon fab Modron (Mabinogion, 1877)

Ymddengys Mabon fab Modron fel cymeriad yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen, ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Un o'r rhain yw ceisio Mabon fab Modron, a ddygwyd oddi wrth ei fam yn dri diwrnod oed, ac na ŵyr neb ymhle y mae. Rhaid cael Mabon i helpu i hela'r Twrch Trwyth.

Caiff Culhwch gymorth Arthur a'i ŵyr i gwblhau'r tasgau. Aiff Cai, Bedwyr, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel i holi'r Anifeiliaid Hynaf a wyddant rywbeth o'i hanes. Wedi holi nifer o'r anifeiliaid hynaf, cyrhaeddant at Eog Llyn Llyw, sy'n gwybod hanes Mabon. Teithia Cai a Bedwyr ar ysgwydd yr eog i ddarganfod Mabon yn ei garchar a'i ryddhau.

Yn nes ymlaen yn y chwedl, cymer ran yn hela'r Twrch Trwyth ar farch o'r enw Wynn Mygdwn. Ef sy'n cipio'r ellyn oddi ar ben y twrch.

Yn Nhrioedd Ynys Prydain cyfeirir ato fel un o Dri Goruchel Garcharor Ynys Brydain, gyda Llŷr Llediaith ac Arthur. Mae cerdd Pa Gwr yw y Porthawr yn Llyfr Du Caerfyrddin lle dywedir ei fod yn was i Uthr Bendragon.

Dywed un traddodiad ei fod yn fab i Afallach.

Llyfryddiaeth golygu

  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.) Culhwch and Olwen: an edition and study of the oldest Arthurian tale (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992) ISBN 0-7083-1127-X