Machynlleth

tref a chymuned ym Mhowys

Tref a chymuned yng ngogledd-orllewin Powys, Cymru, yw Machynlleth[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger aber Afon Dyfi. Ei phoblogaeth yn 2001 oedd tua 2,000. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr. Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.

Machynlleth
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.591°N 3.849°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000326 Edit this on Wikidata
Cod OSSH745005 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.

Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Hanes golygu

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru. Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Machynlleth (pob oed) (2,235)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Machynlleth) (1,119)
  
51.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Machynlleth) (1466)
  
65.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Machynlleth) (390)
  
37.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Pont ar Ddyfi golygu

Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Bydd yn costio £46 miliwn.[8] Mae'r hen bont ar gau yn aml oherwydd llifogydd.

Hamdden golygu

Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r gogledd o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.

Digwyddiadau golygu

Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:

Enwogion golygu

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel golygu

 
Machynlleth, Sir Drefaldwyn

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Tachwedd 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. "Codi pont newydd dros afon Dyfi ger Machynlleth". Golwg360. Cyrchwyd 13 Ionawr 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.