Magdalena Abakanowicz

Roedd Marta Magdalena Abakanowicz-Kosmowska, (20 Mehefin 193020 Ebrill 2017) yn arlunydd o wlad Pwyl.

Magdalena Abakanowicz
FfugenwAbakanovitchi, Magudarēna Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Falenty Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 2017 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi'r Celfyddydau Cain, Warsaw Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, artist tecstiliau, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, academydd, cynllunydd, drafftsmon, arlunydd, artist sy'n perfformio, arlunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Celfyddydau Gain yn Poznań Edit this on Wikidata
Adnabyddus amManus Ultimus, Birds of Knowledge of Good and Evil, Puellae, Nierozpoznani Edit this on Wikidata
Arddullcelf ffigurol Edit this on Wikidata
Mudiadcelf gyfoes Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier des Arts et des Lettres‎, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Gwobr Herder, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Pour le Mérite, Gwobr Croes Arian am Deilyngdod, Gwlad Pwyl, Croes Aur am Deilyngdod, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Marchog Urdd Polonia Restituta, Marchog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.abakanowicz.art.pl/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cefndir golygu

Ganed yn Falenty, ger Warsaw. Roedd ei theulu yn fonheddig ond torrwyd ei magwraeth freintiedig yn fyr gan ymosodiad y Natsïaid ar Wlad Pwyl a'i "rhyddhad" gan yr Undeb Sofietaidd[1].

Derbyniodd ei addysg yn Academi'r Gelfyddyd Gain, Warsaw (1950-55) yn ystod y cyfnod gormesol o Realistiaeth Sosialaidd. Roedd Realistiaeth Sosialaidd yn set o reolau celfyddydol a grëwyd gan Joseff Stalin yn y 1930au, lle bu raid i gelfyddyd bod yn 'genedlaethol ei ffurf' a 'sosialaidd ei chynnwys'. Roedd dulliau celf eraill a oedd yn cael eu hymarfer yn y Gorllewin ar y pryd, megis Moderniaeth, wedi'u gwahardd. Er mwyn ceisio osgoi sensoriaeth realaeth sosialaidd rhoddodd y gorau i arddulliau darluniadol mwy confensiynol gan droi at wehyddu.

Ym 1956 priododd Jan Kosmowski.

Yn y 1960au daeth i fri rhyngwladol gyda'i gosodiadau ffibr haniaethol anferth o'r enw ‘Abakans‘. Yn niweddarach rhoddodd gorau i wehyddu gan droi at greu grwpiau ffigurol cyntefig ac aflonyddus allan o sachliain bwrlap. Ar ddiwedd y 1980au dechrau'r 1990au, dechreuodd Abakanowicz ddefnyddio metelau, fel efydd, ar gyfer ei cherfluniau, yn ogystal â phren, carreg a chlai.

Bu'n athro yn Academi Celfyddydau Cain yn Poznań, Gwlad Pwyl o 1965 i 1990 ac yn athro ymweld ym Mhrifysgol California, Los Angeles ym 1984.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Warsaw wedi cystudd hir yn 86 mlwydd oed.[2]

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Kitowska-Lysiak, Malgorzata, Magdalena Abakanowicz Archifwyd 2006-10-08 yn y Peiriant Wayback., Visual Arts Profile, Polish Culture, Art History Institute of the Catholic University of Lublin, 2004
  2. New York Times 21 Ebrill 2017 Magdalena Abakanowicz, Sculptor of Brooding Forms, Dies at 86 adalwyd 5 Ionawr 2018