Rhanbarth hanesyddol yw Malakand (Wrdw: مالاکنڈ) a leolir yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan. Mae'n cynnwys tua traean o diriogaeth y dalaith ac yn cyfateb yn fras i'r hen Asiantaeth Malakand o gyfnod y Raj. Rhennir y rhanbarth yn sawl dosbarth ac ardal, yn cynnwys Dir, Swat, Buner, Shangla, Dosbarth Malakand, Muhmand, a hefyd Chitral (yn draddodiadol: ond prin y cyfeirir ato fel rhan o Falakand ym Mhacistan heddiw),

Malakand
Mathagency of Pakistan, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
PrifddinasBatkhela Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Pacistan Pacistan
Cyfesurynnau34.5°N 71.75°E Edit this on Wikidata
Map
Am yr ardal weinyddol o'r un enw gweler Malakand (dosbarth). Gweler hefyd Bwlch Malakand.

Yn ddiweddar mae rhan fawr o Falakand wedi dod dan reolaeth y gwrthryfelwyr Islamig Tehreek-e-Nafaz-e-Shariat-e-Mohammadi, cynghreiriaid y Taliban. Sefydlwyd cyfraith Sharia ym Malakand gan y Taliban a chadarnheuwyd hynny gan y ddeddf Nizam-e-Adl 2009, a basiwyd fel rhan o gytundeb rhwng y llywodraeth ganolog a'r gwrthryfelwyr, i wneud Sharia yn gyfreithlon ym Malakand.

Yn Ebrill a Mai 2009 gwelwyd ymladd difrifol rhwng Byddin Pacistan a'r Taliban a'u cefngowyr ar draws rhanbarth Malakand, yn enewdig yn Dir a Swat. Dros yr ardal gyfan roedd rhai cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu disodli gan yr ymladd ac roedd cyrffiw yn cael ei weithredu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Clashes, curfews and displacement across Malakand" Archifwyd 2009-05-11 yn y Peiriant Wayback. Dawn News (Pacistan), 08.05.2009.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bacistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.