Awdur Seisnig yw Malcolm Pryce (ganwyd ym 1960), sy'n ysgrifennu nofelau ditectif noir yn arddull Raymond Chandler.

Malcolm Pryce
Ganwyd1960 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Llyfr cyntaf Malcolm Pryce: Aberystwyth Mon Amour

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Pryce yn yr Amwythig, cyn symyd i Aberystwyth yn naw oed, lle mynychodd Ysgol Gyfun Penglais yn diweddarach. Arhosodd yno hyd iddo gwblhau ei arholiadau Lefel A. Astudiodd Almaeneg ym Mhrifysgol Warwick a Phrifysgol Freiburg cyn gadael i fynd i deithio.[1]

Tra'n teithio bu'n gweithio yn ffatri BMW yn yr Almaen, ac fel golchwr llestri. Ar ôl gyrfa fer fel "gwerthwr aliwminiwm gwaetha'r byd", bu Pryce yn ysgrifennwr copi yn y byd hysbysebu yn Llundain a Singapôr. Roedd e'n byw yn Bangkok, Gwlad Tai, rhwng 2001 a 2007, cyn iddo symud i Rydychen.

Lleolir y mwyafrif o'i nofelau yn Aberystwyth, ond mewn rhyw fydysawd arall lle mae derwyddon yn troseddu, lle mae bechgyn y dref yn diflannu mewn amgylchiadau rhyfedd, a lle mae gan y dref ddiwydiant ffilm, yn cynhyrchu ffilmiau 'Beth Welodd y Bwtler'. Arwr y straeon yw Louie Knight, ditectif preifat gorau tref Aberystwyth, ac yr unig dditectif preifat yn Aberystwyth...

Llyfrau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  What is it about Aberystwyth?. Malcolm Pryce. Adalwyd ar 17 Ebrill 2019.

Dolenni allanol golygu