Malltraeth (pentref)

pentref ar Ynys Môn

Pentref yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn, yw Malltraeth[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar arfordir gorllewinol yr ynys ar lan ogleddol aber Afon Cefni. Er ei fod yn bentref cymharol fychan mae yno ddwy dafarn, y Royal Oak a'r Joiners, a swyddfa'r post sydd hefyd yn siop. Hefyd mae yna siop sglodion yn y pentref.

Malltraeth
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1931°N 4.3877°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH408688 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Ar un adeg roedd y llanw'n cyrraedd ymhell i'r tir yma, gan greu ardal gorsiog Cors Ddyga. Adeiladwyd Cob Malltraeth yn y 19g, ac yn awr rheolir y llanw a dyfroedd Afon Cefni gan lifddorau.

Mae Malltraeth yn lle da i wylio adar, yn enwedig ar y pwll sydd ar ochr y tir i'r cob, sy'n un o'r safleoedd gorau ar Ynys Môn i weld rhydyddion a hwyaid. Ym Malltraeth roedd yr arlunydd adar adnabyddus Charles Tunnicliffe yn byw, a gellir gweld llawer o'i luniau o adar o amgylch y cob yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni.

Gweler hefyd golygu

Ffynhonnell golygu

  • The Place Names of Anglesey, gol. G. J. Jones a Tomos Roberts (2004)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021