Malvern, Swydd Gaerwrangon

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Malvern. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Malvern Hills. Mae'r anheddiad yn amrywiol iawn o ran ei ddaearyddiaeth: mae rhai ardaloedd y dref wedi'u gwasgaru ar hyd cefnen o Fryniau Malvern, eraill ar eu llethrau, eraill ar lawr y dyffryn islaw. Mae'r plwyf sifil Malvern yn cynnwys yr ardaloedd Great Malvern (canol y dref), North Malvern, Malvern Link a Malvern Common. Mae Little Malvern, West Malvern a Malvern Wells yn blwyfi sifil ar wahân.

Malvern
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolMalvern
Gefeilldref/iMariánské Lázně Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerwrangon
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaLeigh Sinton Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.108°N 2.325°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO786459 Edit this on Wikidata
Cod postWR14 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 29,626.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 4 Gorffennaf 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerwrangon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.