Symbol crefyddol yw mandala (Sansgrit: मण्डल, cylch), sydd i'w gael yn amrywiol draddodiadau ysbrydol Asia, megis Hindŵaeth, Bwdhaeth (yn enwedig ym Mwdhaeth Tibet), Jainiaeth a Shintō. Defnyddir mandalâu i ganolbwyntio sylw ymarferwyr, fel cymorth i fyfyrdod neu fel map sy'n cynrychioli duwiau neu baradwys. Yn gyffredinol, mae mandala yn cynrychioli taith ysbrydol, gan ddechrau o'r tu allan, trwy haenau, i'r craidd mewnol.

Mandala
Enghraifft o'r canlynolsymbol, cysyniad crefyddol Edit this on Wikidata
Maththema mewn celf Edit this on Wikidata
Enw brodorolमण्डल Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mandala Vajradhatu