Manon Awst

artist a bardd o Ynys Môn bu'n gweithio am gyfnod yn yr Almaen

Arlunydd o Gymru yw Manon Awst (ganwyd 1983) sy'n gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd.

Manon Awst
Ganwyd1983 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerflunydd, bardd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://manonawst.com Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysg golygu

 
Manon Awst: Porth, Gorffennaf 2020

Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004 cyn symud i Berlin fel rhan o gasgliad celf Pankof Bank, gyda'r artist Simon Fujiwara a’r pensaer Sam Causer. Eu prif brosiectau oedd Pankof Bank Architects yn y Architecture Foundation, Llundain[1] ac Archfarchnad ar gyfer gŵyl Deptford X, 2005.[2]

O 2006 ymlaen bu'n gweithio fel rhan o'r artist-ddeuawd Awst & Walther yn arddangos mewn orielau ac amgueddfeydd ledled Ewrop, gan gynnwys Casgliad Boros, Kunstmuseum Wolfsburg, Kunstverein Nürnberg, Cass Sculpture Foundation ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Yn 2013–15 astudiodd Ymchwil Artistig yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain, a derbyniodd Wobr Creadigol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru[3] yn 2015, gan sefydlu stiwdio yng Nghaernarfon.

Awst a Walther golygu

 
Awst & Walther: Ground to Sky, 2014

Cydweithiodd Manon Awst â'r artist Almaenig, Benjamin Walther, am dros ddeng mlynedd, gan wneud gweithiau celf gofodol, amrywiol a heriol.[4] Fe'u comisiynwyd gan Lysgenhadaeth yr Almaen yn Llundain i greu gosodiad i gofio 20 mlynedd ers cwymp Mur Berlin, 2009. Roedd Work in Progress yn wal iâ enfawr a stopiodd y traffig ar Sgwâr Belgrave, Llundain, ar y 9 Tachwedd 2009.[5]

Yn 2010 cawsant Gymrodoriaeth i Artistiaid gan Sefydliad Henry Moore am breswyliad yn y Künstlerhaus Bethanien, Berlin,[6] ac roeddent hefyd yn artistiaid preswyl yn Meetfactory, Prag, yn dilyn gwobr gan y Goethe-Institut.[7]

Roedd dau o'u gosodiadau, Latent Measures a The Line of Fire, yn rhan o ail arddangosfa Casgliad Boros yn y byncer ym Merlin o 2012 i 2016, ochr yn ochr ag Ai Weiwei, Olafur Eliasson, Cerith Wyn Evans ac eraill. Ymwelodd dros 200,000 o westeion â'r arddangosfa.

Mae gweithiau mawr eraill yn cynnwys Ground to Sky, gwrych cyfan wedi'i atal yng nghanol yr awyr yn oriel PSM, Berlin, a Gap to Feed, gosodiad parhaol ar Rosa-Luxemburg-Platz, Berlin, wedi'i wneud o filoedd o gregyn gleision a gasglwyd ar lannau Afon Menai.[8]

Mae ganddynt osodiad parhaol Pell ac Eang wedi'i leoli yn Nant Gwrtheyrn, a wnaed yn wreiddiol ar gyfer fforwm rhyngddisgyblaethol ym Marclodiad y Gawres, Ynys Môn.

Yn 2019, cyhoeddodd Distanz Verlag y catalog Awst & Walther, monograff cynhwysfawr sy'n arddangos y cerfluniau a'r ymyriadau creadigol a greodd yr artistiaid dros ddegawd.[9]

Bardd golygu

Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd Cymraeg,[10] ar ôl bod yn aelod sefydlol o'r grŵp bardd benywaidd Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar BBC Radio Cymru.

Yn 2017 bu i Awst ennill Ysgoloriaeth yng nghanolfan Tŷ Newydd er mwyn datblygu ei chelf fel artist celf gain ac fel bardd.[11] Ym mis Hydref 2018 bu hefyd iddi, fel bardd gyflawni her fel rhan o dîm o bedwar bardd, ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr.[12] Y tri bardd arall oedd Caryl Bryn, Morgan Owen ac Osian Owen.

Darllen pellach golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pankof Bank Architects". Architecture Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-20. Cyrchwyd 2020-08-28.
  2. "Pankof Bank: Suppermarket for DeptfordX 2005". Sam Causer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-24. Cyrchwyd 2020-08-28.
  3. "Creative Wales Award". Wales Online.
  4. Sokhan, Alena. "Awst & Walther Studio Visit". Berlin Art Link.
  5. Honigman, Ana Finel. "Melt-Down in Berlin". Interview Magazine.
  6. "Awst & Walther residency". Künstlerhaus Bethanien.
  7. "Awst & Walther residency". Meetfactory.
  8. "Awst & Walther Be Water". Kunstverein am Rosa-Luxemburg-Platz.
  9. "Publication 'Awst & Walther'". Distanz.[dolen marw]
  10. "Bardd y Mis". BBC Radio Cymru.
  11. https://www.tynewydd.cymru/blog/ysgoloriaethau-ty-newydd-manon-awst/
  12. https://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/newyddion/pedwar-myfyriwr-prifysgol-bangor-yn-cwblhau-100-o-gerddi-mewn-24-awr-38317
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.