Manuel Ávila Camacho

Gwleidydd a milwr Mecsicanaidd oedd Manuel Ávila Camacho (24 Ebrill 189713 Hydref 1955) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1940 i 1946.

Manuel Ávila Camacho
Ganwyd24 Ebrill 1897 Edit this on Wikidata
Teziutlán Municipality Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico, Huixquilucan de Degollado Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Escuela Nacional Preparatoria Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Secretary of National Defense Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Chwyldroadol Genedlaethol Edit this on Wikidata
PriodSoledad Orozco Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Gwyn, Urdd y Cymylau Ffafriol Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Teziutlán yn nhalaith Puebla yn nwyrain canolbarth Mecsico. Ymunodd â byddin Venustiano Carranza yn 1914 yn ystod Chwyldro Mecsico a fe'i dyrchafwyd yn gyflym drwy'r rhengoedd. Fel cadfridog fe brofodd ei alluoedd trefniadol a gweinyddol, a fe'i penodwyd yn weinidog rhyfel a'r llynges yn llywodraeth yr Arlywydd Abelardo Rodríguez ac yn weinidog amddiffyn cenedlaethol dan yr Arlywydd Lázaro Cárdenas yn 1937. Ymddiswyddodd o'r cabinet yn 1939, a chafodd ei enwebu gan y blaid lywodraethol, Partido de la Revolución Mexicana (PRM), ar gyfer etholiad arlywyddol 1940. Enillodd yr etholiad.[1]

Gweithredodd Ávila Camacho bolisïau cymedrol a diwygiadau er cynnydd cymdeithasol. Datganodd yn gyhoeddus ei fod yn Gatholig mewn ymgais i ddadwneud gwrthglerigiaeth ei raflaenydd. O ran polisi tramor, cychwynnodd ar berthynas newydd â'r Unol Daleithiau drwy dorri'r ddadl dros y diwydiant olew ac ymuno ag ymdrech ryfel y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ildiodd yr arlywyddiaeth i Miguel Alemán Valdés yn 1946. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 58 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Manuel Ávila Camacho. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.