Nofelydd, bardd, ac ymgyrchydd Periwaidd oedd Manuel Scorza (9 Medi 192827 Tachwedd 1983).

Manuel Scorza
Ganwyd9 Medi 1928 Edit this on Wikidata
Lima Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1983 Edit this on Wikidata
Madrid, Mejorada del Campo Edit this on Wikidata
Man preswylLima, Acoria, Sant Martin, Talaith Huancayo, Tsile, yr Ariannin, Brasil, Dinas Mecsico, Wrwgwái, Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol San Marcos
  • Leoncio Prado Military Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, bardd, nofelydd, indigenist Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
MudiadQ5580124, magic realism, Indigenismo Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Lima, prifddinas Periw. Yn 1949 ymunodd â'r ymgyrch yn erbyn unbennaeth y Cadfridog Manuel Odría. Cafodd holl gopïau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Actas de la remota lejanía (1949), eu cymryd gan yr heddlu. Fe'i alltudiwyd am gyfnod a bu'n byw mewn sawl gwlad. Enillodd glod am ei gasgliad o gerddi Las imprecaciones (1955). Yn 1956 ymunodd â'r Movimiento Comunal a chefnogodd gwrthryfel y gwerinwyr yn y Cerro de Pasco.[1]

Ysgrifennodd Scorza bum nofel yn ymwneud ag hanes Periw yn y cyfnod 1955–62, gyda phwyslais ar brofiadau'r brodorion: Redoble por Rancas (1970), Historia de Garabombom, el invisible (1972), El jinete insomne (1978), Cantar de Agapito Robles (1978), a La tumba del relámpago (1979). Ymsefydlodd ym Mharis ac addysgodd yn yr École Normale Supérieure. Bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 55 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Manuel Scorza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.