Un o bobloedd brodorol De America yw'r Mapuche neu Mapunche; fe'i gelwir hefyd yn Arawcaniaid, ond nid ydynt yn hoffi'r enw yma. Ceir eu tiriogaethau yng nghanolbarth a de Tsile a de-orllewin yr Ariannin. Yn ôl cyfrifiad 2002, roedd 604,349 ohonynt yn Tsile, ac mae tua 300,000 yn yr Ariannin. Yn y dinasoedd mae llawer ohonynt yn byw erbyn hyn. Mae tua 440,000 ohonynt yn siarad yr iaith Mapudungun.

Mapuche
Enghraifft o'r canlynolpobloedd brodorol Edit this on Wikidata
MathQ118688981 Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,500,000, 250,009, 1,745,147 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ariannin, Tsile Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y cacique Lloncon, tua diwedd y 19g

Bu'r Mapuche oedd yn byw rhwng afonydd Biobío a Toltén yn ymladd yn erbyn y Sbaenwyr am tua 300 mlynedd, gydag ysbeidiau o heddwch. Dim ond wedi i Tsile a'r Ariannin ddod yn wledydd annibynnol y goresgynnwyd eu tiroedd a'i gyrru i warchodfeydd.

Rhwng y 17g a rhan gyntaf y 19g, ymledodd y Mapuche tua'r dwyrain a llyncasant nifer o bobloedd eraill megis y Tehuelche, a fabwysiadodd iaith ac arferion y Mapuche.