Marchog (gwyddbwyll)

Darn Gwyddbwyll yw Marchog.

Symud Marchog golygu

abcdefgh
88
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Symud Marchog

Marchog yw'r unig ddarn ar y bwrdd Gwyddbwyll sy'n cael neidio dros ddarn arall. Mae Marchog sydd ar sgwâr golau wastad yn glanio ar sgwâr tywyll, a Marchog sydd ar sgwâr tywyll yn glanio ar un golau.

Mae llawer o chwaraewyr yn agor y gêm drwy symud ei marchog i sgwâr f3, neu'r marchog arall i sgwâr c3. Gall Marchog symud ymlaen ac yn ôl.

Defnyddio Marchog golygu

Gosod Marchog yn y canol
Mae'r tri llun isod yn dangos yn glir pam ei bod yn bwysig ceisio symud Marchog i ganol y bwrdd er mwyn iddo reoli mwy o sgwariau:

  • yn y llun cyntaf mae Marchog Gwyn yng nghanol y bwrdd ac yn rheoli neu fygwth 8 sgwâr
  • yn yr ail lun mae'n agos at un ymyl, ac felly'n rheoli neu fygwth 4 sgwâr yn unig
  • yn y llun olaf mae Marchog Du reit yn y gornel ac yn rheoli neu fygwth 2 sgwâr yn unig.

Mae'r Saeson yn defnyddio dywediad "dim on the rim" i esbonio sut mae pwerau Marchog yn gwanhau wrth symud yn rhy agos i ymyl y bwrdd.

 
Defnyddio Marchog
 
Defnyddio Marchog
 
Defnyddio Marchog
 
Defnyddio Marchog
 
Defnyddio Marchog

Fforch Marchog
Mae Marchog yn ddarn defnyddiol iawn i greu 'fforch', a chipio darn mwy pwerus wrth y gelyn. Ystyr fforch yw pan fod darn un lliw yn bygwth dau ddarn y lliw arall ar yr un pryd - neu fwy na dau ddarn wrth gwrs.

Yn y llun mae Marchog Gwyn yn bygwth Brenin Du - Siach! Rhaid i Du felly symud y Brenin, a does dim y gall wneud i achub ei Frenhines, sydd hefyd yn cael ei bygwth gan Farchog Gwyn.

 
Defnyddio Marchog

Fforch Marchog ar waith
Edrych ar y llun gyferbyn. Mae'n dangos sefyllfa o gêm iawn. Mae Du ar y blaen yn y gêm, ac mae Gwyn newydd symud Marchog i sgwâr d5 i fygwth Brenhines Du. Mae Du yn bwriadu symud ei Frenhines o e7 i e6 i fygwth Marchog Gwyn a'i yrru yn ôl. Camgymeriad mawr iawn!

Os yw Du'n gwneud hyn symudiad nesaf Gwyn fydd symud y Marchog i c7 - Siach - a fforch ar Frenin, Brenhines a Chastell Du, a chyfle i Gwyn gipio Brenhines Du.

Mae Gwyn yn ôl yn gêm, yn wir mae ganddo fantais dros Ddu nawr!