Bardd Lladin oedd yn byw yn Rhufain yn ystod 1g oedd Marcus Manilius. Ni wyddys rhagor am fanylion ei fywyd. Ysgrifennodd y gerdd Astronomica ar bwnc seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth.

Marcus Manilius
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr Astronomica yw'r unig waith gan Manilius sy'n goroesi. Ysgrifennodd y gerdd addysg anorffen hon rhwng 14 a 27 OC. Pum llyfr sy'n goroesi – 4000 chweban i gyd.[1] Mae'r awdur yn ymdrin â'r sffer, sêr y Sidydd a chytserau eraill, cylchoedd mawr a chomedau yn y llyfr cyntaf; arwyddion y Sidydd a'r dodecatopus yn yr ail lyfr; y 12 man, Fortuna, amseroedd codi'r arwyddion yn Alecsandria, arglwydd y flwyddyn, ac hyd oes yn y trydydd llyfr; y decan, y monomoria, a daearyddiaeth astrolegol yn y pedwerydd llyfr, a'r sêr sefydlog sy'n codi gyda mannau'r ecliptig yn y pumed llyfr. Mae'n debyg taw ysgrifau Hermetig cynnar oedd ffynonellau Manilius, ac o bosib hefyd cyfieithiad Germanicus o Phaenomena gan Aratus.[2] Noda'r gwaith gan Ladin anarferol, cyfrifiadau a symiau ar ffurf penillion, a thuedd yr awdur i grwydro oddi ar y testun gan fydryddu ar bynciau mytholegol a moesol. Pwysleisia Manilius trefn ragluniaethol y byd a rhesymu dwyfol.[1]

Gwybodaeth astrolegol elfennol yw hyn i gyd, ac nid yw'r gerdd yn galluogi'r darllenydd i ddeall neu lunio horosgop. Gwerthfawroga'r gerdd yn fwy gan ysgolheigion clasurol o safbwynt llenyddol ac athronyddol. Manilius oedd y bardd Rhufeinig olaf o'r llu didactig, ac efelychodd arddull ac athroniaeth Lwcretiws, Fferyllt ac Ofydd.[1] Cyfuniad unigrwyd o athroniaeth glasurol, myth, yr epig, hanes Rhufeinig, a barddoneg ddidactig yw'r Astronomica. Tynna Manilius ar ddylanwadau Stoicaidd, Platonaidd, Pythagoreaidd, ac ocwlt. Ceir hefyd penillion difyr wrth iddo bortreadu cymeriadau a'u sygnau.[3]

Darluniad gan Wenceslaus Hollar o argraffiad Sherburne, The Sphere of Marcus Manilius.

Ansicr yw dylanwad Manilius ar sêr-ddewiniaeth yr Henfyd; ni chafodd ei waith ei ddarllen gan astrolegwyr pwysig Rhufain.[2] Enillodd yr Astronomica ei enw yn Ewrop wedi i'r dyneiddiwr Poggio Bracciolini ei ailddarganfod adeg y Dadeni. Cyhoeddodd Syr Edward Sherburne gyfieithiad Saesneg o'r llyfr cyntaf gyda nodiadau ac atodiad ym 1675.[4] Cyhoeddodd A. E. Housman argraffiad anodiadol o farddoniaeth Manilius ar ddechrau'r 20g. Am oes cafodd yr Astronomica ei ddiystyru oherwydd natur y pwnc a safon iaith yr awdur. Bellach gwelir yn un o brif gerddi addysg oes Awgwstws, ac yn debyg i De Rerum Natura (Lwcretiws) a'r Georgics (Fferyllt) yn y modd mae'n llunio damcaniaeth o natur y byd a phwrpas y profiad dynol gan bwysleisio effaith y sêr ar fywyd y Ddaear.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Marcus Manilius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Manilius, Marcus" yn Complete Dictionary of Scientific Biography (2008). Encyclopedia.com. Adalwyd ar 24 Awst 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) D. Mark Possanza. "Review: Katharina Volk, Manilius and his Intellectual Background" yn Bryn Mawr Classical Review (18 Hydref 2011). Adalwyd ar 24 Awst 2016.
  4. (Saesneg) The Sphere of Marcus Manilius[dolen marw] (Llyfrgell Whipple, Prifysgol Caergrawnt). Adalwyd ar 24 Awst 2016.

Darllen pellach golygu

  • Josèphe-Henriette Abry. "Manilius and Aratus: two Stoic poets on stars" yn Leeds International Classical Studies (2007).
  • Steven J. Green a Katharina Volk. Forgotten Stars: Rediscovering Manilius' Astronomica (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2011).
  • Katharina Volk. Manilius and his Intellectual Background (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009).

Dolen allanol golygu