Maredudd ap Gruffudd

tywysog Deheubarth

Roedd Maredudd ap Gruffudd (c. 1130 - 1155) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.

Maredudd ap Gruffudd
Ganwyd1130 Edit this on Wikidata
Bu farw1155 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Rhys Edit this on Wikidata
MamGwenllian ferch Gruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Maredudd oedd mab hynaf Gruffydd ap Rhys gan Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, er fod ganddo ddau hanner-brawd hŷn, Anarawd a Cadell. Nid oedd Maredudd on chwech oed pan laddwyd ei fam yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yn fuan wedyn bu farw ei dad. Pan oedd yn 16 mae cofnod amdano yn cynorthwyo ei frawd Cadell, oedd erbyn hyn yn dywysog Deheubarth, i yrru'r Normaniaid allan o Geredigion. Ychydig yn ddiweddarach llwyddodd i amddiffyn castell Caerfyrddin yn erbyn ymosodiad Normanaidd.[1]

Yn 1151 bu ganddo ran flaenllaw yn y gwaith o ad-ennill gogledd Ceredigion oddi wrth Gwynedd. Yr un flwyddyn ymosodwyd ar Cadell gan griw o Normaniaid pan oedd allan yn hela. Gadawodd y Normaniaid ef gan gredu ei fod wedi marw. Llwyddwyd i achub ei fywyd, ond roedd wedi ei anafu yn rhy ddifrifol i barhau fel tywysog Deheubarth, ac i bob pwrpas Maredudd oedd yn rheoli o hynny ymlaen. Yn 1153 gadawodd Cadell ar bererindod i Rufain, gan adael Maredudd yn dywysog Deheubarth.[1]

Bu farw Maredudd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1155, gan adael ei frawd iau Rhys (a elwid Yr Arglwydd Rhys yn nes ymlaen) yn dywysog.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmams, Green & Co.).
O'i flaen :
Cadell ap Gruffudd
Teyrnoedd Deheubarth
Maredudd ap Gruffudd
Olynydd :
Rhys ap Gruffudd