Maredudd ap Rhys

uchelwr, offeiriad, a bardd

Bardd o Bowys oedd Maredudd ap Rhys (bl. tua 1450/60 - 1483). Roedd yn frodor o ardal Mathrafal ym Maldwyn.[1]

Maredudd ap Rhys
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1450 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Gŵr o dras parchus oedd y bardd, yn perthyn i'r un llinach â Dafydd ab Edmwnd, un o feirdd mawr y ganrif. Ymddengys nad oes sail i'r traddodiad ei fod yn athro barddol i Ddafydd.[1] Priododd Angharad ferch Madog o Gristionydd a chawsont ddau blentyn, mab o'r enw Siôn a merch.[1]

Cerddi golygu

Cedwir tua deugain o gywyddau Maredudd mewn llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys cywyddau brud, cerddi gofyn a diolch a cherddi mawl i uchelwyr lleol.[1]

Mewn un o'i gerddi ceir cyfeiriad at draddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd, yr honnid yn nes ymlaen ei fod wedi darganfod yr Amerig ar ddiwedd y 12g, wedi hwylio i'r moroedd. Mae'r cywydd yn diolch i uchelwr lleol ar ran un o noddwyr Maredudd am roi rhwyd pysgota iddo. Dyma'r ddau gwpled sy'n cyfeirio at Fadog:

Madog wych, mwyedig wedd,
Iawn genau Owain Gwynedd,
Ni fynnai dir, f'enaid oedd,
Na da mawr ond y moroedd.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion.
  2. Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion, cerdd 8.43-6.