Gwleidydd, newyddiadurwraig ac athrawes o'r Alban oedd Margaret Bain Ewing, née Margaret Anne McAdam (1 Medi, 194521 Mawrth, 2006).[1] Roedd yn Aelod Seneddol o Blaid genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') gan gynrychioli Dwyrain Swydd Dunbarton o 1974 hyd at 1979 cyn troi i gynrychioli Etholaeth Moray yn Senedd yr Alban o 1987 hyd at 2001.

Margaret Ewing
Ganwyd1 Medi 1945 Edit this on Wikidata
Lanark Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 2006 Edit this on Wikidata
Lossiemouth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 2nd Scottish Parliament, Member of the 1st Scottish Parliament, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
PriodFergus Ewing Edit this on Wikidata

Bu Ewing yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP rhwng 1984 a 1987 ac yn arweinydd yr SNP yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1987 a 1999. Ymgeisiodd hefyd am arweinyddiaeth y blaid yn 1990, ond Alex Salmond oedd yn fuddugol.

Y dyddiau cynnar golygu

Yn Lanark y cafodd ei geni, yn ferch i John McAdam, gwas fferm. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Biggar ac yna ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn gradd Meistr mewn Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athrawes Saesneg yn Ysgol Modan yn Stirling rhwng 1970 a 1973 ac bu'n uwch-athrawes Anghenion Arbennig yno rhwng 1973 a 1974. Roedd yn briod i Donald Bain tan eu hysgariad yn 1980. Ailbriododd yn 1983 gyda Fergus Ewing a oedd hefyd yn Aelod o Senedd yr Alban ac yn fab i Winnie Ewing AS.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ymunodd gyda'r SNP pan oedd yn ugain oed, yn 1966, ac etholwyd hi'n Aelod Seneddol yn Hydref 1974, yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig dros Ddwyrain Swydd Dunbarton dan ei henw bedydd: Margaret Bain. 22 o bleidleisiau oedd ynddi, a dim ond o drwch blewyn y llwyddodd i gipio'r sedd.[2]

Bu farw o gancr y fron yn 60 oed ar 21 Mawrth 2006.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Barry Henderson
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Swydd Dunbarton
19741979
Olynydd:
Norman Hogg
Rhagflaenydd:
Alexander Pollock
Aelod Seneddol dros Moray
19872001
Olynydd:
Angus Robertson
Senedd yr Alban
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd yr Alban dros Moray
19992006
Olynydd:
Richard Lochhead

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. www.parliament.uk; adalwyd 30 Ebrill 2015
  2. Heisey, Monica. "Making the case for an "aye" in Scotland". Queen's Alumni Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-05. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.