Gwleidydd o'r Alban yw Margaret Ferrie (ganwyd 10 Medi 1960) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Rutherglen a Gorllewin Hamilton; mae'r etholaeth yn siroedd Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark, yr Alban. Mae Margaret Ferrie yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Margaret Ferrier AS
Margaret Ferrier


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Tom Greatrex
Olynydd Gerard Killen

Geni (1960-09-10) 10 Medi 1960 (63 oed)
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Rutherglen a Gorllewin Hamilton
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Ganwyd a magwyd Ferrier yn Glasgow ond symudodd y teulu i Rutherglen yn 1972 a bu yno hyd at 1990. Bu'n byw ym maesdref Halfway yn Cambuslang ers 2000, pan ymunodd gyda'r SNP. Cyn ei hethol yn AS roedd yn rheolwr gwerthu i gmwni adeiladu yn Motherwell.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Margaret Ferrie 30279 o bleidleisiau, sef 52.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +36.5 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9975 pleidlais.

Deiseb adalw golygu

Ym mis medi 2020 cymerodd Ferrier prawf COVID-19, yn ei etholaeth. Cyn cael canlyniad y prawf aeth ar y trên i Lundain a siaradodd yn siambr Tŷ'r Cyffredin. Ychydig ar ôl ei haraith cafodd wybod bod y prawf yn bositif a dychwelodd i'w chartref yn yr Alban ar drên wedi derbyn canlyniad y prawf. Roedd ei ymddygiad yn groes i reolau'r Alban a Lloegr ar gyfer ynysu i geisio atal Covid rhag lledaenu. Cafodd ei harestio a’i chyhuddo o ymddygiad beius a di-hid ym mis Ionawr 2021 a phlediodd yn euog o flaen llys ym mis Awst 2023. Ar argymhelliad pwyllgor safonau Tŷ’r Cyffredin cafodd ei hatal o'r tŷ am 30 diwrnod. Ysgogodd ei hataliad deiseb adalw o dan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Llwyddodd y ddeiseb adalw a chollodd Ferrier ei sedd ar 1 Awst 2023.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu