Margarette Golding

Roedd Margarette "Peggy" Owen, a aned yn Margarette Golding (Tachwedd 1881 - 1939) yn nyrs a pherson busnes a aned yng Nghymru, a sefydlodd y clwb Inner Wheel ym Manceinion. Tyfodd y clwb i fod yn sefydliad rhyngwladol sy'n agored i wragedd aelodau y Clwb Rotari .

Margarette Golding
GanwydTachwedd 1881 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnyrs, person busnes Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd Golding ym Mlaenau Ffestiniog ym 1881 ac yna symudodd ei theulu i'r Gelli Gandryll . Hyfforddodd Golding fel nyrs.[1] Priododd Oliver Golding.[2]

Roedd menywod wedi cymryd rhan yn anffurfiol yng ngwaith y Clwb Rotari ond ataliwyd rhag dod yn aelodau eu hunain. Fe berswadiodd Margarette Golding 26 o wragedd eraill i'w cyfarfod mewn ystafell yn Herriott's Turkish Baths yn Deansgate ym Manceinion. Fe wnaethant gyfarfod ar 15 Tachwedd 1923 lle cytunwyd i greu sefydliad partner i'r Clwb Rotari a fyddai'n helpu'r clwb yn eu rôl ac yn darparu budd cymdeithasol i'w aelodau. Cynhaliwyd y cyfarfod swyddogol cyntaf ar 10 Ionawr 1924 yn eu man cyfarfod rheolaidd yn Lower Mosley Street, Manceinion.[3]

Etifeddiaeth golygu

Sefydlwyd a enwodd Golding y sefydliad Inner Wheel ar gyfer gwragedd aelodau'r Clwb Rotari .[4] Roedd grwpiau tebyg eraill ym Mhrydain, ond Golding a'u trefnodd i fod yn sefydliad cenedlaethol o dan enw'r Inner Wheel.[5]

Mae gan Golding blac yn y Gelli Gandryll lle cafodd ei magu. Credid ar un adeg ei bod wedi cael ei geni yno.[1] Yn 2008, roedd gan Inner Wheel bron i 100,000 o aelodau mewn 102 o wledydd ac roedd yn un o'r sefydliadau menywod mwyaf gyda statws ymgynghorol yn y Cenhedloedd Unedig .[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Crump, Eryl (2017-04-08). "North Wales birthplace of international women's group founder revealed". northwales. Cyrchwyd 2019-04-21.
  2. Jay French (1977). Inner Wheel: A History. Association of Inner Wheel Clubs in Great Britain and Ireland. t. 24.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-20. Cyrchwyd 2019-04-22.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-06. Cyrchwyd 2019-04-22.
  5. Rotary International (April 1982). The Rotarian. Rotary International. tt. 22–25. Nodyn:ISSN.
  6. 2008 Proceedings: Ninety-Ninth Annual Convention of Rotary International. Rotary International. tt. 28–. GGKEY:2CN6BC8K16L.