Marged uch Ifan

telynor a reslwr Cymreig

Cymeriad a ddaeth yn enwog yn nhraddodiad gwerin Eryri oedd Marged uch Ifan neu Marged vch Ifan (1696 – Ionawr 1793). Roedd yn enwog am ei nerth anhygoel a'i gallu i ganu'r delyn ymysg campau eraill.

Marged uch Ifan
Ganwyd1699, 1768 Edit this on Wikidata
Beddgelert Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd1696 Edit this on Wikidata
Bu farw1788 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdynes gref Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Dywedir ei bod yn wreiddiol o Dalymignedd Uchaf, Ddyffryn Nantlle, lle roedd yn cadw tafarn y Talernia islaw i Dyrpeg y Gelli.[1] Symudodd wedyn i fyw ym Mwthyn Penllyn ger Llyn Padarn, lle roedd yn ennill bywoliaeth trwy gludo mwyn copr o fwyngloddiau Nant Peris mewn cwch i ben isa'r llyn ger Brynrefail. Ceir llawer o wybodaeth amdani gan Thomas Pennant, a ymwelodd a'i thŷ ar ei daith trwy Gymru yn 1786, dim ond i ddarganfod ei bod oddi cartref ar y pryd. Roedd yn enwog fel helwraig, a dywedid ei bod hi a'i chŵn yn dal mwy o lwynogod mewn blwyddyn nag y gallai neb arall eu dal mewn deng mlynedd. Roedd yn enwog am ei nerth, a dywedid ei bod yn medru ymaflyd codwm ag unrhyw un hyd yn oed pan oedd yn 70 oed. Adroddir i un o'r mwynwyr copr, dyn mawr cryf, gamdrin un o'i chŵn unwaith, ac i Marged roi dyrnod iddo a'i tarawodd yn anymwybodol, a dywedai'r rhai a'i gwelodd y byddai un ddyrnod arall debyg wedi ei ladd.

Ceir côf am ei gallu i ganu'r delyn yn yr hen bennill adnabyddus (gyda nifer o fersiynau ychydig yn wahanol):

Mae gan Farged fwyn uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan
Un i'w chanu yn nhref Caernarfon
Ac un i gadw'r gŵr yn fodlon
Mae gan Farged fwyn uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan
Un i dynu'r ci o'r gongl
A'r llall i dorri esgyrn pobol.

Dywedir iddi gyfansoddi naw o donau telyn, yn cynnwys "Megan a gollodd ei gardas" a "Merch Megan", y rhai a werthfawrogid gan delynorion yr ardal.[2]

Enw ei gŵr oedd William ab Rhisiard. Credir iddi gael ei chladdu ym mynwent Nant Peris. Yn ôl traddodiad roedd hi'n 102 oed pan fu farw. Roedd hi "heb fod awr yn ei gwely erioed oherwydd afiechyd. Bu ei hoff forwyn farw ychydig o'i blaen, wedi ei gwasanaethu am ddeugain a dwy o flynyddau."[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.nantlle.com; adalwyd 24 Medi 2013
  2. 2.0 2.1 Wmffre Dafydd, 'Margred Uch Ifan', yn y gyfrol Cymru Fu (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1862).