Mae Margot Adler (ganwyd 16 Ebrill 1946; m. 28 Gorffennaf 2014) yn awdures, newyddiadurwr, darlithydd, Offeiriedais Wicaidd[1] a newyddiadurwr y radio a gohebydd ar gyfer National Public Radio (NPR).[2]

Margot Adler
Ganwyd16 Ebrill 1946 Edit this on Wikidata
Little Rock Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethawdur, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDrawing Down the Moon Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd yn Little Rock, Arkansas, tyfodd Adler yn bennaf yn Ninas Efrog Newydd. Ystyrir ei thaid, Alfred Adler, i fod yn dad seicoleg yr unigolyn.

Addysg golygu

Cafodd Adler radd faglor y celfyddydau yng ngwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Califfornia, Berkeley a gradd feistr gan Ysgol Raddio Newyddiaduriaeth Prifysgol Columbia yn Efrog Newydd ym 1970. Roedd hi'n Gyd-Nieman ym Mhrifysgol Harvard ym 1982.

Newyddiaduriaeth a'r radio golygu

Gweithiodd Adler yn gyntaf i WBAI, FM 99.5, allfa Radio Pacifica yn Ninas Efrog Newydd. Creodd hi'r sioeau siarad Hour of the Wolf ym 1972 (dal i fyw gan Jim Freund) ac Unstuck in Time.

Neo-baganiaeth golygu

Ysgrifennodd Adler Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today,[3] llyfr o 1979 ynglŷn â Neo-baganiaeth a gafodd eu addasu yn 2006.[4] Ystyrir y llyfr i fod yn drobwynt gyda chylchoedd Neo-baganaidd Americanaidd, am ei fod yn cynnig gwybodaeth am y grefydd yn y Taleithiau Unedig, ac am lawer o flynyddoedd roedd hwn yr unig lyfr cyflwyniadol oedd ar gael i gymunedau Neo-baganaidd yn America. Cyhoeddwyd ei hail lyfr, Heretic's Heart: A Journey Through Spirit and Revolution, ym 1997 gan Beacon Press. Mae Alder yn offeiriedais Wicaidd yn nhraddodiad Gardneraidd, hynafwraig yng Nghyfamod y Dduwies,[1] ac yn cydgyfranogi'r gymuned ffydd Cyffredinolwr Undodaidd.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Disgyddiaeth golygu

Cyfweliadau golygu

Cyfeiriadu golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw uuworld1996
  2. Gwefan NPR
  3. 3.0 3.1 Viking Press 1979. Beacon Press 1987, a Penguin Books 1997
  4. "Drawing Down the Moon Spotlight in The Wiccan Pagan Times". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-09. Cyrchwyd 2010-01-12.
  • Vale, V. and John Sulak (2001). Modern Pagans. San Francisco: Re/Search Publications. ISBN 1-889307-10-6

Dolenni allanol golygu