Mari Lovgreen

actores

Cyflwynwraig teledu ydy Mari Rhiannon Lovgreen (ganwyd 25 Awst, 1983[1], Caernarfon). Mae wedi cael ei disgrifio fel un o gyflwynwyr mwyaf naturiol teledu[2]. Y tro cyntaf iddi gyflwyno ar y teledu oedd ar Uned 5, S4C yn Tachwedd 2004 a bu yn y swydd honno tan 17 Gorffennaf 2009.

Mari Lovgreen
Ganwyd1983 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Ers hynny mae wedi cyflwyno Waaa!! a chymryd rhan yn Y Briodas Fawr. Mae Mari yn un o ohebwyr S4C yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol. Mae wedi cyflwyno rhaglenni dogfen Uned 5 o Wlad Tai, Melbourne a Periw. Ei thad yw'r canwr-cyfansoddwr Geraint Løvgreen[3]

Enillodd Mari wobr 'Newydd Ddyfodiad Gorau' yng ngwobrau BAFTA, S4C 2006[4].

Mari yw awdur llyfr Brên Babi (2017- Gwasg Gomer) a Llanast yn y Gyfres Lolipop (2015 - Gwasg Gomer)

Ffynonellau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.