Mari waedlyd (coctel)

Coctêl poblogaidd ydyw Mair waedlyd (Saesneg Bloody Mary) ac mae'n cynnwys cynnwys fodca, sudd tomato a sbeis neu rhywbeth arall i roi blas ar y ddiod e.e. Worcestershire sauce, Tabasco, saws piri piri, consommé cig eidion neu giwb bouillon, rhuddugl, seleri, olifs, halen, pupur du, pupur cayenne neu sudd lemwn. Cafodd enw drwg o fod 'y coctêl anoddaf i'w wneud'.[1]

Mair waedlyd

Nid yw'n glir pwy wnaeth ei ddyfeisio (neu ei greu). Honodd Fernand Petiot iddo ef wneud hynny yn 1921, cyn i neb arall honi hynny, tra'r oedd yn gweithio mewn bar yn Efrog Newydd; newidiwyd enw'r bar yn ddiweddarach i Harry's New York Bar.[2]

Y gred (anghywir) yw ei fod yn wych am setlo'r stumog ar ôl noson allan ar y teils.

Cyfeiriadau golygu

  1. Davidson, Max (2011-03-31). "What do you put in your Bloody Mary?". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2013.
  2. MacElhone, Andrew & and MacElhone, Duncan (1986, 1996). Harry's ABC of Mixing Cocktails. Souvenir Press. t. 35. ISBN 0-285-63358-9. Check date values in: |date= (help)CS1 maint: uses authors parameter (link)