Marion Wallace Dunlop

Ffeminist o'r Alban oedd Marion Wallace Dunlop (22 Rhagfyr 1864 - 12 Medi 1942) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am fod y swffragét cyntaf i fynd ar ympryd (ar 5 Gorffennaf 1909).[1]

Marion Wallace Dunlop
Ganwyd22 Rhagfyr 1865 Edit this on Wikidata
Inverness Edit this on Wikidata
Bu farw12 Medi 1942 Edit this on Wikidata
Guildford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Ysgol Gelfyddyd Gain Slade Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, swffragét Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Magwraeth a choleg golygu

Fe'i ganed yn Inverness ar 22 Rhagfyr 1864 a bu farw yn Llundain. Roedd yn ferch i Robert Henry Wallace Dunlop a'i ail wraig, Lucy Wallace Dunlop (née Dowson; 1836–1914).[2]

Symudodd yn ddiweddarach i Loegr ac astudiodd yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade, lle by Augustus John. Arddangoswyd ei gwaith yn yr Academi Frenhinol ym 1903, 1905 a 1906. Dyluniodd sawl llyfr, gan gynnwys Fairies, Elves, a Flower Babies a The Magic Fruit Garden.[3][4][5]

Y swffragét golygu

 
Ch-Dde: Annie Kenney, Kitty Kenney, Florence Haig, Mary Blathwayt a Marion Wallace-Dunlop yng ngardd "Suffragette's Rest".

Daeth Dunlop yn aelod gweithgar o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod a chafodd ei harestio am y tro cyntaf ym 1908 am "rwystr" ac eto yn 1908 am arwain grŵp o fenywod mewn gorymdaith.[6] Yn 1909 cafodd ei harestio y trydydd tro, yn yr achos hwn am ddychanu darn o'r Bil yr Hawliau (Bill of Rights) ar wal yn Nhŷ'r Cyffredin a oedd yn datgan, "Mae'n hawl gan y person i ddeisebu'r Brenin, ac mae holl ymrwymiadau ac erlyniadau am ddeisebu fel hyn yn anghyfreithlon."[7] Cynorthwyodd i gynllunio llawer o orymdeithiau WSPU i alw am hawl menywod i bleidleisio, gan gynnwys yr orymdaith ar 17 Mehefin 1911.[1][6]

Ymprydio golygu

Ni chafwyd unrhyw awgrym erioed i unrhyw un gynghori neu argymell iddi fynd ar streic newyn (neu 'ymprydio'). Credir mai ei syniad hi oedd hyn ac yn fuan wedyn, daeth streic newyn yn boblogaidd i swffragetiaid.

Aeth ati am 91 awr heb fwyd, a gadawyd hi'n rhydd o Garchar Holloway, ar sail ei bod yn wael. Ym Medi 1909, dechreuodd awdurdodau carchardai orfodi bwyd ar yr ymprydwyr, ymarfer poenus iawn.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 The Militant Suffrage Movement : Citizenship and Resistance in Britain, gan Laura E. Nym Mayhall, athro prifysgol History Catholic University of America.
  2. "Statutory Birth Record for Dunlop, Marion Wallace". Scotland's People. Scotland's People. Cyrchwyd 15 Hydref 2016.
  3. Rhyw: https://rkd.nl/explore/artists/134937. dyddiad cyrchiad: 8 Gorffennaf 2023.
  4. Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  5. "Marion Wallace-Dunlop profile". Spartacus Educational. Spartacus Educational. Cyrchwyd 15 Hydref 2016.
  6. 6.0 6.1 Women's Suffrage Movement by Elizabeth Crawford
  7. Cyfieithwyd o'r gwreiddiol: "It is the right of the subject to petition the King, and all commitments and prosecutions for such petitioning are illegal."