Beiciwr proffesiynol o Ynys Manaw ydy Mark Simon Cavendish, MBE (ganwyd 21 Mai 1985) sy'n aelod o dîm Team Dimension Data. Mae Cavendish wedi ennill 30 o gymalau yn y Tour de France, sy'n ei roi'n ail ar y rhestr o feicwyr â'r nifer fwyaf o fuddugoliuaethau [1]. Yn 2011 llwyddodd i ennill Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI yn Copenhagen, Denmarc, y Prydain Fawr cyntaf i ennill y crys enfys ers Tom Simpson ym 1965[2][3].

Mark Cavendish
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMark Simon Cavendish
Llysenw"Manx Missile", "Cav"
Dyddiad geni (1985-05-21) 21 Mai 1985 (38 oed)
Taldra1.75m
Pwysau69kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a Thrac
RôlReidiwr
Math seiclwrGwibiwr
Tîm(au) Amatur
Team Persil
Tîm(au) Proffesiynol
2005-2006Sparkasse
2006-2011T-Mobile Team
2012Team Sky
2013-2015Omega Pharma–Quick-Step
2016-Team Dimension Data
Prif gampau
Grand Tours
Tour de France
Cystadleuaeth Pwyntiau (2011)
30 cymal unigol
2008–2013, 2015, 2016
Giro d'Italia
Cystadleuaeth Pwyntiau (2013)
15 cymal unigol
(2008, 2009, 2011-2013)
Vuelta a España
Cystadleuaeth Pwyntiau (2010)
3 cymal unigol (2010)
1 cymal timau yn erbyn y cloc (2010)

Rasys cymal

Ster ZLM Toer (2012)
Tour of Qatar (2013, 2016)
Dubai Tour (2015)

Clasuron a rasys un dydd

Pencampwriaeth y Byd (2011)
Pencampwriaeth Prydain (2013)
Milan–San Remo (2009)
Scheldeprijs (2007, 2008, 2011)
Kuurne-Brussels-Kuurne (2012, 2015)

Dechreuodd ei yrfa ar y trac gan ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Los Angeles, Unol Daleithiau America yn 2005 gyda Rob Hayles[4] ac eto yn 2008 ym Manceinion, Prydain Fawr gyda Bradley Wiggins[5] ond mae wedi gwneud ei farc fel gwibiwr mewn rasys ar y lôn.

Yn ogystal â Phencampwriaeth y Byd a 30 cymal yn y Tour de France mae Cavendish wedi ennill ras glasur y Milan–San Remo yn 2009[6] a hefyd cystadleuaeth y pwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours: y Vuelta a España yn 2010[7], y Tour de France yn 2011[8] a'r Giro d'Italia yn 2013[9]

Bywyd cynnar a gyrfa amatur golygu

Ganwyd Cavendish yn Douglas, Ynys Manaw, yn fab i David sy'n frodor o'r ynys, ac Adele o Sir Efrog, Lloegr[10] a dechreuodd rasio BMX yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Ynys Manaw yn Douglas. Llwyddodd i ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Ynysoedd yn Guernsey yn 2003[11][12] cyn cael ei le ar raglen Academi British Cycling.

Llwyddodd i ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Los Angeles, Unol Daleithiau America yn 2005 gyda Rob Hayles[4] yn ogystal â'r Ras bwyntiau ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop yn yr un flwyddyn.

Gyrfa broffesiynol golygu

2006-2007 golygu

Cafodd Cavendish ei le ar dîm Sparkasse o'r Almaen yn 2006[13] gan gystadlu yn y Tour of Britain lle llwyddodd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau[14]. Roedd Sparkasse yn dîm datblygu i dîm T-Mobile ac yn 2007 cafodd gytundeb gyda T-Mobile. Cafodd ei ddewis i rasio yn y Tour de France am y tro cyntaf ond rhoddodd gorau i'r ras yn ystod yr wythfed cymal[15].

2008 golygu

Dychwelodd i'r trac yn 2008 gan ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd gyda Bradley Wiggins[5]. Ar y lôn, llwyddodd Cavendish i ennill cymal mewn Grand Tour am y tro cyntaf gyda buddugoliaethau yn y Giro d'Italia a'r Tour de France[14]. Gadawodd y Tour de France yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar y madison yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing, Tsieina, lle roedd disgwyl iddo ef a Wiggins ailgreu eu perfformiad ym Mhencampwriaeth y Byd a chipio'r fedal aur, ond roedd siom wrth i'r pâr orffen yn nawfed[16]. Roedd Cavendish yn credu nad oedd Wiggins wedi perfformio i'r gorau o'i allu[17].

2009 golygu

Yn 2009 cafodd ei ddewis i rasio yn y Milan–San Remo, un o bum prif glasur y calendr beicio. Llwyddodd Cavendish i gwrsio'r gŵr o Awstralia, Heinrich Haussler, a'i guro dros y 200m olaf er mwyn cipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa hyd yma[6]. Ar ddiwrnod cyntaf y Giro d'Italia llwyddodd Team Colombia-High Road i enill y cymal cyntaf yn erbyn y cloc a cafodd Cavendish wisgo crys y Maglia Rosa fel arweinydd y ras; y gŵr cyntaf o Ynys Manaw i gael yr anrhydedd[18].

 
George Hincapie a Cavendish yn ystod trydedd cymal y Tour de France yn 2009

Parhaodd ei lwyddiant yn y Grand Tours wrth iddo ennill cymalau 2, 3, 10, 11, 19 a 21 o'r Tour de France[19]. Wrth ennill y trydedd cymal daeth Cavendish y Prydeiniwr cyntaf i wisgo'r Maillot Vert am ddau ddiwrnod yn olynol[20] ac wrth ennill y 19eg cymal llwyddodd Cavendish i ddod y Prydeiniwr gyda'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn cymalau o'r Tour de France[21].

2010 golygu

Dechreuodd Cavendish dymor 2010 yn hwyr oherwydd problemau gyda'i ddanedd[22] ond llwyddodd i wneud ei farc unwaith eto yn y Tour de France. Er cael damwain yng nghyfnod olaf y cymal agoriado[23] llwyddodd Cavendish i ennill cymalau 5, 6, 11, 18 ac 20 er mwyn dod â'i gyfanswm o fuddugoliaethau i bymtheg cymal[24].

Llwyddodd Cavendish i ychwanegu crys arweinydd y Vuelta a España i'w gasgliad wedi i'w dîm ennill y ras yn erbyn y cloc ar ddiwrnod agoriadol y ras[25] a llwyddodd i ennill cymalau 12, 13 ac 18 a chipio'r gystadleuaeth pwyntiau er mwyn gorffen y tymor ar dân[26].

2011 golygu

Cipiodd Cavendish ddwy gymal o'r Giro d'Italia[27] cyn ychwanegu pum cymal o'r Tour de France i'w gyfanswm o fuddugoliaethau mewn Grand Tour a dod y person cyntaf erioed i ennill y cymal olaf o'r Tour am dair blynedd yn olynol. Llwyddodd hefyd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau a dod y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill y maillot vert[28].

 
Matthew Goss o Awstralia, Cavendish ac André Greipel o'r Almaen ar y podiwm wedi Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd yn Copenhagen, Denmarc.

Ar ddiwedd fis Medi roedd Cavendish yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI yn Copenhagen, Denmarc. Llwyddodd Prydain i reoli'r ras gyda Cavendish yn ennill y gwibiad am y llinell a'r hawl i wisgo'r crys enfys am dymor. Daeth Cavendish yr ail Brydeiniwr i ennill Bencampwriaeth y Byd ar ôl Tom Simpson ym 1965[2].

2012 golygu

Dechreuodd Cavendish y tymor gyda Team Sky[29] a llwyddodd i gipio tair cymal o'r Giro d'Italia[30] ond methodd ag ennill y gystadleuaeth pwyntiau gan orffen yn yr ail safle, un pwynt tu ôl i Joaquim Rodríguez. Llwyddodd i greu hanes yn y Tour de France wrth ennill pedair cymal arall gan gynnwys y cymal olaf ar y Champs-Elysée am y pedwaredd blwyddyn yn olynol a dod y beiciwr cyntaf i ennill ar y Champs-Elysée tra'n gwisgo'r crys enfys[31]. Yn ystod y Tour, cyhoeddodd y papur newydd Ffrengig, L'Equipe mai Cavendish oedd y gwibiwr gorau yn hanes y Tour de France[32][33].

Prif nod Cavendish ar gyfer y tmyor oedd y ras lôn yng Ngemau Olympaidd, Llundain ond er gwaethaf ymdrechion tîm cryf Prydain Fawr oedd yn cynnwys Bradley Wiggins, Chris Froome, Ian Stannard a David Millar methodd y tîm rwystro 30 o feicwyr rhag torri'n rhydd o'r peleton. Gorffennodd Cavendish yn 29ain, 40 eiliad tu ôl i'r enillydd Alexander Vinokurov o Casacstan[34].

Ar 18 Hydref cyhoeddodd Cavendish ei fod yn gadael Team Sky er mwyn ymuno â thîm Omega Pharma-Quick Step o Wlad Belg[35].

2013 golygu

Llwyddodd Cavendish i ennill pum cymal o'r Giro d'Italia - buddugoliaethau oedd yn cynnwys y 100fed buddugoliaeth o'i yrfa broffesiynol[36] a llwyddodd i ennill y gystadleuaeth bwyntiau gan ddod y pumed person erioed i ennill y gystadleuaeth bwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours[37].

Ar 23 Mehefin llwyddodd Cavendish i ennill Pencampwriaeth Prydain am y tro cyntaf yn Glasgow, Yr Alban[38] ac ychwanegodd ddwy gymal arall o'r Tour de France i fynd a'i gyfanswm i 25 o fuddugoliaethau[39].

Ym mis Medi, llwyddodd Cavendish i ennill dwy gymal o'r Tour of Britain gan gynnwys y bedwaredd cymal oedd yn gorffen yn Llanberis[40].

2014 golygu

Cafodd Cavendish flwyddyn ddistaw gan iddo beidio a chystadlu yn y Giro d'Italia. Yn ystod cymal cyntaf y Tour de France rhwng Leeds a Harrogate yn Sir Efrog, Lloegr cafodd ddamwain welodd o'n ddatgymalu ei ysgwydd a'i orfodi allan o'r ras[41].

2015 golygu

Llwyddodd Cavendish i ennill un cymal yn y Tour de France[42] cyn dychwelyd i'r trac gan ymuno â Bradley Wiggins yn y madison am y tro cyntaf ers Gemau Olympaidd 2008[43].

Ym mis Medi cafwyd cyhoeddiad fod Cavendish yn arwyddo i Team Dimension Data ar gyfer tymor 2013[44].

2016 golygu

Ar 2 Gorffennaf llwyddodd Cavendish i ennill cymal agoriadol y Tour de France er mwyn gwisgo'r maillot jaune am y tro cyntaf yn ei yrfa[45].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tour de France: Cavendish wins stage 14 in Villars-les-Dombes". Cycling News. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 Williams, Ollie. "Mark Cavendish and Britain win road race title". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  3. Gladstone, Hugh. "Mark Cavendish wins World Road Race Championship". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 "British success in men's madison". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "Wiggins and Cavendish get the High Road over the Germans". Cycling News. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 "Cavendish silences his doubters with dramatic Milan-San Remo victory". theGuardian. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  7. "Vuelta a España 2010: Mark Cavendish wins points jersey as Vincenzo Nibali takes overall". The Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  8. "Tour de France: Mark Cavendish wins historic green jersey". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  9. "Mark Cavendish wins Giro d'Italia points classification". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  10. Cavendish, Mark (2010). Boy Racer: My Journey to Tour de France Record-Breaker. Ebury Publishing. ISBN 978-0-09-193277-0.
  11. iiga.org "Cycling Results" Check |url= value (help) (pdf). International Island Games Association.
  12. "Island Games 2015: Who will be next to follow these stars". Unknown parameter |Publisher= ignored (|publisher= suggested) (help)
  13. "2006 Team Sparkasse". FirstCycling.
  14. 14.0 14.1 "Profile: Mark Cavendish". British Cycling.
  15. "'My race is over. I was trying to do things I am physically incapable of'". theGuardian. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  16. Fotheringham, Alasdair. "Wiggins and Cav' miss out on Olympic Madison". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  17. Caroe, Charlie. "Bradley Wiggins hasn't spoken to Mark Cavendish since Beijing Olympics". The Daily Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  18. Lynch, Robin. "Mark Cavendish and Columbia take Giro d'Italia opener ahead of Garmin". theGuardian. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  19. "Tour de France 2009: Mark Cavendish makes history in Paris as Alberto Contador seals win". The Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  20. "Superb Cavendish triumphs again". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  21. "Embarrassed Cavendish apologises for outburst". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  22. "Cavendish reveals the pain of his dental problems". Cycling News. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  23. Lewis, Tim. "Mark Cavendish at heart of crash controversy". theGuardian. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  24. "Alberto Contador seals third Tour de France victory". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  25. Wynn, Nigel. "Cavendish leads Vuelta after HTC-Columbia win team time trial". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  26. Gallagher, Brendan. "Mark Cavendish wins points jersey as Vincenzo Nibali takes overall". The Daily Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  27. "Mark Cavendish quits 2011 Giro d'Italia after win". BBC Sport.
  28. "Mark Cavendish wins historic green jersey". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  29. "Mark Cavendish announces Team Sky move". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  30. McGrath, Andy. "Cavendish makes it three at the Giro". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  31. "Bradley Wiggins wins Tour de France title". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  32. Gallagher, Brendan. "Tour de France 2012: Mark Cavendish sets stage perfectly for Olympic road race glory". The Daily Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  33. Fotheringham, Alasdair. "Tour de France: Mark Cavendish enters history as best-ever Tour sprinter". The Independent. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  34. "Mark Cavendish's Olympic bid fails as Alexandre Vinokourov wins gold". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  35. "Team Sky rider Mark Cavendish to join Omega Pharma-Quick Step". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  36. "Mark Cavendish wins Giro d'Italia stage but Wiggins struggles". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  37. Andrew Hood. "Mark Cavendish caps stellar 2013 Giro d'Italia with 5th stage win, points jersey". VeloNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-07. Cyrchwyd 2016-08-17. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  38. "Mark Cavendish wins first road race title in Glasgow". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  39. "Tour de France: Mark Cavendish sprints to 25th stage win". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  40. "Mark Cavendish wins Tour of Britain stage four in Llanberis". Cycling Weekly. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  41. "Mark Cavendish out of the Tour de France". Cycling News. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  42. Glendenning, Barry. "Mark Cavendish sprints to victory on stage seven of the Tour de France". theGuardian.com. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  43. "Sir Bradley Wiggins & Mark Cavendish win madison for GB". BBC Sport. Cyrchwyd 5 July 2016. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  44. "Mark Cavendish joins Team Dimenson Data for 2016". Cycling News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-20. Cyrchwyd 29 September 2015. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  45. "Tour de France: Mark Cavendish in yellow jersey after stage one victory". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)

Dolenni Allanol golygu