Mae David Mark Rylance Waters (ganed 18 Ionawr 1960) yn actor, cyfarwyddwr theatr a dramodydd Seisnig. Ef oedd cyfarwyddwr artistig cyntaf Glôb Shakespeare yn Llundain, o 1995 i 2005. Cynhwysa ei ymddangosiadau ffilm Prospero's Books (1991), Angels and Insects (1995), Institute Benjamenta (1996), ac Intimacy (2001). Enillodd Rylance Wobr yr Academi a Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau yn dilyn ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies (2015). Yn 2016 serenna yn y rôl deitl yn ffilm Steven Spielberg The BFG, addasiad acsiwn-byw o'r llyfr plant gan Roald Dahl.

Mark Rylance
LlaisMark Rylance voice.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd18 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
Ashford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodClaire van Kampen Edit this on Wikidata
PerthnasauJuliet Rylance Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Deledu yr Academi Brydeinig am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Drama League Award, Sam Wanamaker Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.markrylance.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwnaeth Rylance ei ddebut proffesiynol yn Theatr y Citizens, Glasgow yn 1980. Aeth yn ei flaen i ennill y Wobr Olivier ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Much Ado About Nothing yn 1994 a Jerusalem yn 2010, a'r Wobr Tony ar gyfer yr Actor Gorau mewn Drama ar gyfer Boeing Boeing yn 2008 a Jerusalem yn 2011. Enillodd trydedd gwobr Tony yn 2014 ar gyfer Twelfth Night. Ar deledu, enillodd y Wobr BAFTA TV ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer ei rôl fel David Kelly yn nrama 2005 Channel 4 The Government Inspector a fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobrau Emmy, Golden Globe and Screen Actors Guild ar gyfer chwarae Thomas Cromwell ym mini-gyfres 2015 BBC Two Wolf Hall.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Rylance yn Ashford, Caint, i Anne (Skinner yn gynt) a David Waters, y ddau yn athrawon Saesneg. Roedd un o'i famau cu yn Wyddeles.[1] Roedd ei ddau dad-cu yn garcharorion rhyfel i Siapan yn yr Ail Ryfel Byd.[2] Mae gan Rylance chwaer o'r enw Susannah, cantores opera ac awdur, a brawd, Jonathan, sy'n gweithio fel sommelier yn y tŷ bwyty Chez Panisse yn Berkeley, Califfornia.[3] Symudodd ei rieni i'r Unol Daleithiau yn 1962, yn gyntaf i Connecticut ac wedyn i Wisconsin yn 1969, lle ddysgodd ei dad Saesneg ym Mhrifysgol Milwaukee. Mynychodd Rylance yr ysgol hon. Serennodd yn rhaf fwyaf o ddramâu'r ysgol gyda chyfarwyddwr y theatr, Dale Gutzman, gan gynnwys y brif ran mewn cynhyrchiad 1976 o Hamlet.[4] Chwaraeodd Romeo yng nghynhyrchiad Romeo and Juliet yr ysgol. 

Bywyd personol golygu

Dechreuodd Rylance ganlyn y gyfarwyddwraig, cyfansoddwraig a dramodydd Claire van Kampen yn 1987 tra'n gweithio ar gynhyrchiad o The Wandering Jew yn y Theatr Genedlaethol, a phriodasant yn Swydd Rydychen ar 21 Rhagfyr 1989.[5] Trwy'r briodas hon, daeth yn lys-dad i'w dwy ferch o briodas flaenorol, yr actores Juliet Rylance a'r wnethurwraig ffilmiau Nataasha van Kampen. Bu Nataasha farw yng Ngorffennaf 2012 yn 28 mlwydd oed, yn dilyn hyn, tynnodd Rylance yn ôl o'i ran yn seremoni agoriadol Gemau'r Olympaidd 2012. Cymerodd Kenneth Branagh ei le.[6][7]

Mae Rylance wedi bod yn gefnogwr o'r sefydliad ar gyfer hawliau brodorol Survival International am lawer o flynyddoedd.[8] Ef yw crëwr a chyfarwyddwr "We Are One", digwyddiad codi arian a gymerodd le yn Theatr yr Apollo ym mis Ebrill 2010. Cynhwysodd y noson berfformiadau o ryddiaith a barddoniaeth lwythol o rai o actorion a cherddorion blaenaf y byd.

Mae Rylance yn noddwr i Peace Direct a Stop the War Coalition.[9] Perfformiodd fywyd a geiriau Henri, dyn sy'n byw yng nghanol rhyfel yn nwyrain Congo, yn ystod cyflwyniad yn Ninas Efrog Newydd yn 2011. Mae hefyd yn noddwr i Gwmni Theatr The Outside Edge, sy'n gweithio trwy greu theatr a drama gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau. Darpara ymyraethau mewn triniaeth cyffuriau ac alcohol a chyfleusterau cyffredinol i'r gymuned ar draws Prydain.  Cynhyrcha hefyd cynyrchiadau theatr proffesiynol i'r cyhoedd sy'n cymryd lle mewn theatrau, theatrau stiwdio a chanolfannau celfyddydau.

Daeth Rylance yn noddwr i LIFT (Gŵyl Theatr Ryngwladol Llundain) yn 2013. Tra'n sôn am yr ŵyl, meddai: "I feel LIFT has done more to influence the growth and adventure of English theatre than any other organisation we have."[10]

Daeth Rylance yn noddwr i'r prosiect Speech Bubbles Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback. gan Gwmni Theatr Swigen Llundain yn 2015. “I found a voice through making theatre and am proud to be the patron of Speech Bubbles, which helps hundreds of children to do the same.”

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1985 The McGuffin Gavin
1987 Hearts of Fire Fizz
1991 The Grass Arena John Healy
1991 Prospero's Books Ferdinand
1995 Institute Benjamenta Jakob von Gunten
1995 Angels & Insects William Adamson
2000 William Shakespeare Cyfarwyddwr artistig Glôb Shakespeare
2001 Intimacy Jay
2008 The Other Boleyn Girl Thomas Boleyn
2011 Blitz Bruce Roberts
2011 Anonymous Henry Condell
2013 Days and Nights Stephen
2015 The Gunman Cox
2015 Bridge of Spies Rudolf Abel Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau

Gwobr AACTA International ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau 

Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Gorau mewn Rôl Gefnogol
Gwobr Cylch Beirniaid Ffilmiau Llundain ar gyfer Actor Cefnogol y Flwyddyn
Gwobr Cylch Beirniaid Ffilmiau Efrog Newydd ar gyfer Actor Cefnogol Gorau
Enwebwyd—
Gwobr Glôb Aur ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau – Ffilm
Enwebwyd—Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Actor Gwrywaidd mewn Rôl Gefnogol
Enwebwyd—Gwobr Ffilm Dewis y Beirniaid ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau 

2016 The BFG Yr CMM Ôl-gynhyrchu

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1985 Wallenberg: A Hero's Story Nikki Fodor
1993 Love Lies Bleeding Conn
1995 Loving Charlie Raunce
1995 Hamlet Hamlet
1997 Henry V King Henry V
2001 Changing Stages Himself
2003 Leonardo Leonardo da Vinci
2003 Richard II Richard II
2005 The Government Inspector David Kelly
2014 Bing Flop (llais)
2015 Wolf Hall Thomas Cromwell

Theatr golygu

Blwyddyn Cyfnod Perfformiad Theatraidd Cymeriad Theatraidd Theatr y Perfformiad
1981 Desperado Corner Bazza Theatr y Citizens, Glasgow
1982 The Tempest Ariel
1989 Hamlet Hamlet (Perfformio gyda'r Cwmni Brenhinol Shakespeare)
Romeo and Juliet Romeo
1991 Hamlet Hamlet (Perfformio gyda'r Theatr Repertory Americanaidd)
The Seagull Treplev
1993 Henry V Henry V TFANA, Efrog Newydd
Much Ado About Nothing Benedick Theatr y Queens
1994 As You Like It Touchstone TFANA, Efrog Newydd
True West Lee/Austin Donmar Warehouse
1995 Macbeth Macbeth Theatr y Greenwich
2000 Live x 3 Henry Theatr Frenhinol Genedlaethol
2007 Boeing Boeing Robert Theatr Gomedi
I am Shakespeare Frank Taith y DU
2008 Peer Gynt Peer Gynt Theatr y Guthrie, Minneapolis
Boeing Boeing Robert Theatr y Longacre T, Dinas Efrog Newydd
2009 Gorff–Awst Jerusalem gan Jez Butterworth Johnny Byron Theatr y Llys Brenhinol
Hyd–Rhag Endgame gan Samuel Beckett Hamm Theatr y Duchess
2010 Ion–Ebr Jerusalem gan Jez Butterworth Johnny Byron Theatr yr Apollo
Meh–Awst La Bete gan David Hirson Valere Theatr Gomedi
Medi–Chwe Theatr y Music Box, Broadway
2011
Ebr–Awst Jerusalem gan Jez Butterworth Johnny Byron Theatr y Music Box, Broadway
Hyd–Ion Theatr yr Apollo
2012 Tach–Chwe 2013 aryneilio yn Richard IIITwelfth Night Richard III / Olivia Theatr yr Apollo
2013 Ebr–Mai

Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins

Ron Theatr y Guthrie
2013 Hyd–Chwe aryneilio yn Richard IIITwelfth Night Richard III / Olivia Theatr y Belasco, Broadway
2014
2015 Chwe–Maw Farinelli and the King gan Claire van Kampen King Philippe V Chwaraedy Sam Wanamaker 
Medi-Rhag Theatr y Dug Efrog
2016 Ion-Chwe Nice Fish gan Mark Rylance a Louis Jenkins Ron St. Ann's Warehouse[11]

Glôb Shakespeare golygu

Ynghyd â pherfformiadau llwyfan Rylance, mae wedi ymddangos yn rheolaidd yng Glôb newydd Shakespeare yn Southwark, Llundain ar lan ddeheuol Afon Tafwys.

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1996 The Two Gentlemen of Verona Proteus
1997 A Chaste Maid in Cheapside Mr. Allwit
1997 Henry V Henry V
1998 The Merchant of Venice Bassanio
1998 The Honest Whore Hippolito
1999 Antony and Cleopatra Cleopatra
2000 Hamlet Hamlet
2001 Cymbeline Cloten
2002 The Golden Ass Lucius
2002 Twelfth Night Olivia
2003 Richard II Richard II
2004 Measure for Measure Dug Vincentio
2005 The Tempest Prospero

Stephano
Sebastian
Alonso

2005 The Storm Daemones

Labrax
The Weather

2012 Richard III Richard III
2012 Twelfth Night Olivia

Gwobrau ac enwebiadau golygu

Mae Rylance wedi derbyn llawer o enwebiadau a gwobrau ar gyfer ei berfformiadau, gan gynnwys Gwobrau Tony a BAFTA. Yn yr 88ain Gwobrau'r Academi, enillodd Rylance Wobr yr Academi ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau ar gyfer ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies.[12]

Llyfryddiaeth golygu

  • Mark Rylance: PlayA Recollection in Pictures and Words of the First Five Years of Play at Shakespeares's Globe Theatre. Photogr.: Sheila Burnett, Donald Cooper, Richard Kolina, John Tramper. Shakespeare's Globe Publ., Llundain, DU. 2003. ISBN 0-9536480-4-4.
  • The Wisdom of Shakespeare Series gan Peter Dawkins (Rhagair Mark Rylance):
  • The Wisdom of Shakespeare in As You Like It. I.C. Media Productions, 1998. Clawr papur. ISBN 0-9532890-1-X.
  • The Wisdom of Shakespeare in The Merchant of Venice. I.C. Media Productions, 1998. Clawr papur. ISBN 0-9532890-0-1.
  • The Wisdom of Shakespeare in Julius Caesar. I.C. Media Productions, 1999. Clawr papur. ISBN 0-9532890-2-8.
  • The Wisdom of Shakespeare in The Tempest. I.C. Media Productions, 2000. Clawr papur. ISBN 0-9532890-3-6.
  • The Wisdom of Shakespeare in Twelfth Night. I.C. Media Productions, 2002. Clawr papur. ISBN 0-9532890-4-4.
  • Peter Dawkins. The Shakespeare Enigma (Foreword by Mark Rylance). Polair, DU. 2004. Clawr papur â lluniau, 476pp. ISBN 0-9545389-4-3.
  • John Abbott. Improvisation In Rehearsal (Rhagair gan Mark Rylance). Nick Hern Books, UK. 2009. Clawr papur, 256pp. ISBN 978-1-85459-523-2.
  • Dave Patrick. The View Beyond: Sir Francis Bacon: Alchemy, Science, Mystery (Y Gyfres 'View') (Rhagair gan Mark Rylance, Ervin Lazslo, Rose Elliot). Deep Books, UK. 2011. Clawr papur, 288pp. ISBN 978-1-905398-22-5.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mark Rylance: 'I remember bringing food to trees.
  2. "Mark Rylance: from Wolf Hall courtier to Steven Spielberg spy" Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback..
  3. Cooke, Rachel (30 Mehefin 2013). "Mark Rylance: You Have To Move Into The Chaos". The Guardian. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2013.
  4. "The Milwaukee Journal – Google News Archive Search". google.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 2016-03-26.
  5. Schulman, Michael (18 Tachwedd 2013). "Play On". The New Yorker. Cyrchwyd 22 Ionawr 2015.
  6. Baker, Richard Anthony (1 Awst 2012). "Nataasha van Kampen". The Stage.
  7. Brown, Mark (6 Gorffennaf 2012). "Mark Rylance exits from Olympics opening after step-daughter's death". The Guardian.
  8. "We Are One a fundraising evening in aid of Survival International with performance of tribal prose and poetry from leading actors and musicians at Apollo Theatre 18 April". Londontheatre.co.uk. 8 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-09. Cyrchwyd 9 Mehefin 2014.
  9. Stop the War Coalition, "Stop the War Patrons, Officers and Steering Committee", 2016.
  10. LIFT website "Olivier and Tony Winner Mark Rylance announced as LIFT Patron" Archifwyd 2013-11-01 yn y Peiriant Wayback., 23 Mai 2013.
  11. "Nice Fish - St Ann's Warehouse". St Ann's Warehouse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2015-11-02.
  12. "Actor in a Supporting Role". Oscar.go.com. Cyrchwyd 29 Chwefror 2016.