Martha Hughes Cannon

meddyg a gwleidydd

Roedd Martha Hughes Cannon (1 Gorffennaf 185710 Gorffennaf 1932) a anwyd yn Llandudno, Gogledd Cymru, yn ffisegydd a Swffraget amlwg yn Unol Daleithiau America. Bu hefyd yn seneddwraig yn nhalaith Utah: y cyntaf drwy UDA i gyd, pan gafodd ei hethol yn 1895, gan drechu ei gŵr ei hun a oedd hefyd yn ymgeisydd. Ei llysenw oedd "Mattie".[1]

Martha Hughes Cannon
Ganwyd1 Gorffennaf 1857 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1932 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, meddyg, swffragét Edit this on Wikidata
Swyddmember of the State Senate of Utah Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodAngus M. Cannon Edit this on Wikidata

Peter ac Elizabeth Evans Hughes oedd ei thad a'i mam ac roedd y teulu'n aelodau o Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf. Ar 30 Mawrth 1860 daliodd y teulu long o'r enw Underwriter yn Lerpwl a chyrhaeddodd Efrog Newydd ar ddydd Calan.[2]

Ym 1882 derbyniodd radd mewn Fferylliaeth gan Ysgol Feddygol Prifysgol Pennsylvania yn ogystal â diploma.

Ceir cerflun wyth troedfedd yn Utah i'w choffáu ac enwyd The Martha Hughes Cannon Health Building yn Salt Lake City, Utah ar ei hôl. Dychwelodd i Salt Lake City gan weithio fel fferyllydd yn Ysbyty'r Paith rhwng 1882 a 1886.

Cafodd ei chladdu yn Salt Lake City (40°46′37″N 111°51′29″W / 40.777°N 111.858°W / 40.777; -111.858 (Salt Lake City Cemetery)).

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Gymraes sy'n eicon Americanaidd , BBC Cymru Fyw, 5 Mawrth 2018.
  2. "CANNON, MARTHA MARIA HUGHES (1857 - 1932), meddyg a gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-08-24.

Dolennau allanol golygu