Martin McGuinness

Gwleidydd a chenedlaetholwr Sinn Féin oedd James Martin Pacelli McGuinness, Gwyddeleg: Máirtín Mag Aonghusa[1] (23 Mai 1950 - 21 Mawrth 2017) a oedd o fai 2007 hyd at Fawrth 2017 yn Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Martin McGuinness
GanwydMartin Pacelli McGuinness Edit this on Wikidata
23 Mai 1950 Edit this on Wikidata
Derry Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 2017 Edit this on Wikidata
o amyloidosis Edit this on Wikidata
Altnagelvin Area Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Education, Dirprwy Brif Weinidog, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 5th Northern Ireland Assembly, Member of the 4th Northern Ireland Assembly, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSinn Féin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.thepeoplespresident.ie/ Edit this on Wikidata

Ganed Martin McGuinness yn Derry.

Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Canol Ulster, hen sedd Bernadette Devlin McAliskey, dros Sinn Féin, rhwng 1997 a 2013, ond yn unol a pholisi ei blaid, ni lanwodd ei sedd yn San Steffan. Cafodd ei ethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon dros Ganol Ulster yn 1998 a chynrychiolodd yr etholoaeth honno yn y Cynulliad tan 2016. Yn 2016 safodd dros etholaeth Foyle, ei etholaeth enedigol - a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd at ei farwrolaeth yn 2017.

Cyn troi'n wleidydd bu'n un o arweinyddion yr IRA[2]. Yn dilyn Cytundeb St Andrews rhwng y pleidiau yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2007, daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog ar 8 Mai 2007. Bu'n gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2002.

Gweithgareddau'r Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon golygu

(Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon ydy'r Provisional IRA)

Ymunodd McGuinness â'r Fyddin Weriniaethol oddeutu 1970, yn ddim ond 20 oed. Erbyn Gwanwyn 1972, yn 21 oed, roedd yn ddirprwy arweinydd yr IRA yn Derry - a hynny dros gyfnod 'Bloody Sunday'.[3] Cafwyd datganiad yn ystod Ymchwiliad Savile mai McGuinness oedd "wedi darparu dyfeisiau ffrwydro yn ystod digwyddiad 'Bloody Sunday'" pan laddwyd 14 o brotestwyr gan filwyr Lloegr. Honodd Paddy Ward ei fod yn arweinydd y Fianna ar yr amser honno, sef adain ieuenctid yr IRA yn 1972. Mewn ymateb i'r honiadau hyn, dywedodd McGuinness fod yr honiadau'n "ffantasiau", a datganodd Gery O'Hara, cynghorydd gyda'r Sinn Féin, mai ef ac nid Ward oedd arweinydd y Fianna yr adeg honno.[4]

Ymddeol o Gynulliad Gogledd Iwerddon golygu

Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mawrth 2017. Yn gefndir i hyn roedd Refferendwm Brexit, pan bleidleisiodd mwyafrif pobl Gogledd Iwerddon dros aros yn yr UE. Galwyd yr etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Dirprwy Brif Weinidod y Cynulliad, sef Martin McGuinness (Sinn Féin) oherwydd ei iechyd ac mewn protest oherwydd sgandal 'Ymgyrch y Gwres Adnewyddadwy' dan arweiniad gan Unoliaethwyr. Gan nad apwyntiwyd neb yn ei le gan y cenedlaetholwyr, roedd yn rhaid, yn ôl y Ddeddf, alw etholiad. Hwn oedd y 6ed etholiad ers ail-sefydlu'r Cynulliad yn 1998.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Ag cur Gaeilge ar ais i mbéal an phobail - Fórógra Shinn Féin do na Toghcháin Westminster Archifwyd 2007-03-13 yn y Peiriant Wayback. — datganiad i'r wasg gan Sinn Féin Ebrill 2005.
  2. (Saesneg) BBC Profile BBC News
  3. (Saesneg) McGuinness confirms IRA role BBC News website, 2 Mai 2001
  4. (Saesneg) McGuinness yn cael ei enwi fel cyflenwr bomiau gan John Innes, The Scotsman, 21 Hydref 2003


   Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.