Mary Anne Edmunds

hyrwddwr addysg yng Nghymru; athrawes

Addysgwr a ffeminist[1] cynnar o Gymru oedd Mary Anne Edmunds, g. Jones, (25 Ebrill 1813 - 22 Mawrth 1858). Credai mewn cydraddoldeb rhyw: yn ôl ei gŵr, "Byddai yn haws ei hargyhoeddi fod goleuni y lleuad yn rhagori ar eiddo yr haul, na pheri iddi gredu fod cyneddfau y rhyw fenywaidd yn wanach mewn un gradd nag eiddo y rhyw arall."[1]

Mary Anne Edmunds
Ganwyd25 Ebrill 1813 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 1858 Edit this on Wikidata
Man preswylRhuthun, Llundain, Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • British and Foreign School Society Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • British and Foreign School Society Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yng Nghaerfyrddin yn ferch i William a Mary Jones.[2] Roedd y teulu'n Fethodistaidd Calfinaidd ac roedd ganddi un brawd J. W. Jones.[1][3][4][5]

Addysgwyd hi mewn ysgol breswyl a derbyniodd ei haddysg gartref hefyd lle cafodd o'r ysgrythurau. Roedd Edmunds hefyd yn ddarllenwr brwd ac roedd yn hyddysg mewn emynyddiaeth Gymraeg. Cadwodd ddyddiaduron yn yr iaith Saesneg am dros 20 mlynedd, lle cofnododd ei hemosiynau, ei phrofiadau crefyddol a'i gweddïau. Mae gwybodaeth a rhyglder Edmunds o'r Saesneg hefyd yn amlwg, oherwydd yr emynau a ysgrifennodd. Dengys y darnau o brydyddiaeth grefyddol Saesneg a gyfansoddodd iddi ddarllen gweithiau Gray a Cowper.[1]

Gyrfa golygu

Aeth ati i hyrwyddo addysg yng Nghymru mewn cyfnod pan oedd difaterwch ynghylch yr angen am addysg yn rhemp. Daeth yn athrawes fedrus yn yr ysgol Sul, a bu ar hyd ei hoes yn weithgar o fewn cymdeithasau llên a dirwest. [6]

Ym Mawrth 1847, fe'i pendowyd i Goleg Hyfforddi Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor (British and Foreign School Society) yn Llundain, ac ym mis Hydref 1847 penodwyd hi i wasnaethu yn ysgol y Gymdeithas yn Rhuthun. Yn Ionawr 1849 symudodd i gychwyn 'Ysgol Frutanaidd y Garth' i ferched ym Mangor, a bu yno am chwe blynedd, ac yno y cyfarfu a'i darpar ŵr.[2]

Personol golygu

Yn 1850, priododd John Edmunds (1815 - 1886), gŵr o Dyddewi, prifathro ysgol y Garth, a phrifathro ysgol yn Rhuthyn cyn hynny. Ganwyd iddynt ddau fab. Bu farw 22 Mawrth 1858, ac fe gychwynnodd ei gŵr fusnes yng Nghaernarfon wedi hynny, ac yno y bu farw, ym Mawrth 1886.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 92–94. ISBN 978-0-7083-2287-1.
  2. 2.0 2.1 2.2 Roberts, Thomas. "Edmunds, Mary Anne". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 6 Mai 2016.
  3. Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  4. Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-EDMU-ANN-1813. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  5. Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  6. Galwedigaeth: https://biography.wales/article/s-EDMU-ANN-1813. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  • Thomas Roberts, (1885 - 1960), Bangor; gweler y Bywgraffiadur Cymreig
  • Yr Athrawes o Ddifrif sef lloffion o hanes bywyd a marwolaeth Mrs. Edmunds, Bangor, a detholiad o'i hysgrifeniadau, yn dair ran y rhan gyntaf wedi ei chasglu gan ei brawd, J. W. Jones, Llundain; yr ail ran gan ei phriod, J. Edmunds; y drydedd ran yn cynnwys ei phrydyddiaeth (Caernarfon 1959), sef cofiant Mrs. M. A. Edmunds, gan ei phriod a'i brawd, yn cynnwys ei phrydyddiaeth, dyfyniadau o'i dyddlyfrau, a rhagdraeth gan y Parch. Lewis Edwards.
  • W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, iii, 190-2, vi. 424-8.