Mary Lloyd

cerflunydd Cymreig
(Ailgyfeiriad o Mary Lloyd (cerflunydd))

Cerflunydd Cymreig oedd Mary Charlotte Lloyd (23 Ionawr 181913 Hydref 1896) a astudiodd gyda John Gibson yn Rhufain a bu'n byw am ddegawdau gyda'r ffeminist Frances Power Cobbe.

Mary Lloyd
Ganwyd23 Ionawr 1819 Edit this on Wikidata
Corwen Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1896 Edit this on Wikidata
Hengwrt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
PartnerFrances Power Cobbe Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

 
Plas Rhagad, man geni Mary Lloyd

Ganwyd Mary Lloyd ym Mhlas Rhagad, rhwng Corwen a Glyndyfrdwy, Sir Feirionnydd yr wythfed o ddau ar bymtheg o blant, a'r cyntaf o chwech o ferched, i Edward Lloyd, Plas Rhagad a'i wraig Frances Maddocks.[1] Roedd ei thad yn sgweier sylweddol dros diroedd mewn llawer o siroedd yn y gogledd, yn berchen ar 4,300 erw o dir. Etifeddodd Mary arian gan ei modryb Margaret, yn ogystal â rhoddion gan Eleanor Charlotte Butler a Sarah Ponsonby, Merched Llangollen. Bu farw ei ddau riant ym 1858.

Astudiodd Mary a gweithiodd gyda'r artist Ffrengig Rosa Bonheur.[2] Ym 1853 roedd yn gweithio yn stiwdio'r cerflunydd Cymreig John Gibson yn Rhufain, a gyda'r cerflunydd Americanaidd Harriet Hosmer.[1]

Cyfarfu Mary â Frances Power Cobbe yn ystod gaeaf 1861-2, yn Rhufain. Rhyngweithiodd Mary a Frances â merched o'r un anian yn yr Eidal yn y cyfnod, ill dau'n yn byw bywyd anghydffurfiol, gyda rhagolygon ffeministaidd. Ym 1863, ymgartrefodd y ddau yn Llundain.

Ym 1858, etifeddodd Lloyd gyfran yn ystâd yr Hengwrt, Llanelltyd. Roedd hyn yn caniatáu i Lloyd gyfeirio ati'i hun fel perchennog tir wrth arwyddo deisebau yn cefnogi pleidlais i fenywod, a rhoddodd hefyd rai hawliau gwleidyddol lleol iddi, fel y gallu i benodi ficer [1]. Ymneilltuodd hi a Frances Power Cobbe i'r Hengwrt o Lundain ym mis Ebrill 1884.

Perthynas â Frances Power Cobbe golygu

Roedd Mary a Frances yn gwpl, ac yn cael eu cydnabod felly gan eu holl ffrindiau. Byddai llythyrau yn cael eu cyfeirio at “chi a Miss Lloyd” a chyfrannodd Frances at ei hysgrifennu ei hun gyda ein tŷ, ein gardd ni a therminoleg gyd berthynas tebyg. Bu Frances yn ysgrifennu at ei ffrind, Mary Somerville, yn cyfeirio at Mary fel fy ngwraig.

Marwolaeth golygu

Bu farw Mary ym 1896 o anhwylder y galon. Ysgrifennodd ei ffrind, yr awdur Blanche Atkinson, Newidiodd tristwch marwolaeth Miss Lloyd holl agwedd bodolaeth Miss Cobbe. Roedd llawenydd bywyd wedi mynd. Bu gymaint o gyfeillgarwch rhyngddynt, na welir yn aml - perffaith mewn cariad, cydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth. [3] Claddwyd Mary mewn bedd a rhannwyd wedyn a'i chariad Frances Power Cobbe, ym Mynwent Eglwys Sant Illtyd, Llanelltyd.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Mitchell, Sally (2004). Frances Power Cobbe: Victorian Feminist, Journalist, Reformer. University of Virginia Press.
  2. Cherry, Deborah (2000). Beyond the Frame: Feminism and Visual Culture, Britain 1850 -1900. Routledge.
  3. Shopland, Norena 'Frances and Mary' from Forbidden Lives: LGBT stories from Wales Seren Books (2017)
  4. Find a Grave Memorial – Mary Lloyd adalwyd 17 Mehefin 2018