Mary Sophia Allen

swffragét, heddwas, llenor a Ffasgydd o Gymru

Roedd Mary Sophia Allen (12 Mawrth 1878 - 16 Rhagfyr 1964) yn swffragét, ymgyrchydd dros gael menywod yn yr heddlu ac yn Ffasgydd Cymreig.[1]

Mary Sophia Allen
Ganwyd12 Mawrth 1878 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1964 Edit this on Wikidata
Croydon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg y Dywysoges Helena Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swffragét Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolUndeb Ffasgiaeth Prydain Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Medal y Swffragét Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Allen yn Y Rhath, Sir Forgannwg (bellach yn rhan o Ddinas Caerdydd) yn blentyn i Thomas Isaac Allen, uwch-arolygydd Rheilffordd y Great Western, a'i wraig, Margaret Sophia Carlyle. Addysgwyd Mary Allen gartref ac yng Ngholeg y Dywysoges Helena, Ealing, Llundain.[2]

Swffragét golygu

Yn Llundain ym 1909 ymunodd Allen â'r ymgyrch i gael y bleidlais i fenywod. Cafodd ei danfon i'r carchar ar dri achlysur am ei gweithgareddau swffragét. Yn y carchar aeth ar streiciau newyn i brotestio yn erbyn ei charchariad a chafodd ei bwydo'n orfodol. Dyfarnwyd y fedal streic newyn iddi gan Emmeline Pethick-Lawrence ym 1909.[3] Yn ei llyfr Lady in Blue mae hi'n dweud mai tra yn y carchar cafodd y syniad o ferched yn gwasanaethu yn yr heddlu gyntaf. Merched i arestio troseddwyr benywaidd, eu cyrchu i orsafoedd yr heddlu, eu hebrwng i'r carchar a rhoi gofal priodol iddynt trwy'r broses.[4]

O ganlyniad i gael ei bwydo'n orfodol yn ystod ei thymor olaf yn y carchar torrwyd iechyd Allen. Roedd Emmeline Pankhurst yn poeni am ba effaith byddai ar ei hiechyd pe bai hi'n cael ei charcharu eto. Perswadiodd Mrs Pankhurst iddi ymatal rhag gweithredoedd milwriaethus pellach, hyd iddi gael llwyr iachâd. Symudodd i Gaerdydd ac wedyn i Gaeredin i weithio fel trefnydd achos y swffragetiaid yn y ddinasoedd.[5]

Yr heddlu benywaidd golygu

 
Mary Sophia Allen a Margaret Damer Dawson, Rhyfel Byd 1

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf penderfynodd nifer o swffragetiaid y byddai'n fanteisiol i'w hachos pe baent yn rhoi'r gorau i'r ymgyrch dros yr hawl i bleidleisio dros dro er mwyn ymuno a'r ymgyrch rhyfel. Byddai hyn yn dangos gwerth y ferch mewn cyfnod o gyfyngder cenedlaethol. Sefydlodd y swffragét Margaret Damer Dawson y mudiad Gwirfoddolwyr Heddlu'r Menywod. Mudiad annibynnol o'r heddlu sefydledig ond oedd a'i aelodau wedi'u hyfforddi, yn gwisgo lifrai heddlu ac yn barod i weithio llawn amser. Ymunodd Allen a'r mudiad ym 1914.[6]

Cychwynnodd ei gwasanaeth fel 'un o Wirfoddolwyr Heddlu'r Menywod yn Grantham, Swydd Lincoln. Roedd poblogaeth Grantham wedi ei ddyblu gan i filwyr cael eu gwersyllu yno. Roedd Gwirfoddolwyr Heddlu'r Merched yn selog iawn wrth geisio rhwystro cwmnïaeth rhwng menywod lleol a'r milwyr yn y gwersyll. Arweiniodd y brwdfrydedd dros gadw'r merched lleol a'r milwyr ar wahan at ddrwg deimlad yn y dref ac anghydfod rhwng rhai o'r Gwirfoddolwyr. Ymddiswyddodd Nina Boyle, un o'i sylfaenwyr, o’r Gwirfoddolwyr o herwydd yr anghydfod a phenodwyd Allen fel yr is-bennaeth yn ei lle ym mis Chwefror 1915. Ym mis Mai 1915 symudodd Allen i Hull, lle bu hi a'i chydweithwyr yn cadw trefn trwy sawl cyrch Zeppelin. Ar ôl cyfnod o wasanaeth yn Hull dychwelodd i Lundain i gynorthwyo gyda hyfforddi menywod ar gyfer ffatrïoedd arfau rhyfel ledled y wlad. Fe'i penodwyd yn OBE ym mis Chwefror 1918 am ei gwasanaethau yn ystod y rhyfel.

Wedi'r rhyfel newidiwyd enwyd Gwirfoddolwyr Heddlu'r Menywod i Gwasanaeth Ategol y Menywod. Pan fu farw Margaret Damer Dawson ym mis Mai 1920 olynodd Allen hi fel pennaeth Gwasanaeth Ategol y Menywod. Bu aelodau o Wasanaeth Ategol y Menywod yn ymgyrchu i sefydlu heddluoedd benywaidd dramor, yn enwedig yn yr Iwerddon a'r Almaen. Mae llyfr cyntaf Allen, The Pioneer Policewoman (1925), yn disgrifio ei gwaith a'i hanturiaethau yn ystod y cyfnod hwn. Yn dilyn hynny, teithiodd Allen yn helaeth ar deithiau darlithio ac i archwilio dulliau hyfforddi a gweinyddu heddluoedd benywaidd mewn sawl gwlad, gan gynnwys yr Aifft, Brasil a'r Ffindir.

Ym 1927 sefydlodd a golygodd y cylchgrawn Policewoman's Review. Parhaodd y cylchgrawn hyd 1937. Ym 1933 defnyddiodd y cylchgrawn i recriwtio aelodau i warchodlu menywod newydd yr oedd wedi ei sefydlu. Nod y gwarchodlu oedd hyfforddi menywod i wasanaethu mewn unrhyw argyfwng cenedlaethol. Roedd yr aelodau i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf, diffodd tân a gyrru lorïau, ymhlith pethau eraill.[7]

Ym 1934 cyhoeddwyd ei hail lyfr, Woman at the Crossroads, ac yna Lady in Blue ym 1936.

Ffasgiaeth golygu

Yn ystod taith i Ferlin ar gyfer Gwasanaeth Ategol y Menywod ym 1934 cyfarfu a Hitler a Göring. Bu yn holi Göring parthed addasrwydd rhoi lifrau i heddweision benywaidd. Barn Göring oedd dylent wisgo lifrau, barn oedd yn gyd fynd a'i barn hi ar un o bynciau mwyaf dadleuol yn ymwneud â gwragedd yn yr heddlu ledled y byd ar y pryd.[8]

Wedi i Hitler a Göring gwneud argraff arni, ymunodd ag Undeb Ffasgiaeth Prydain a dechreuodd cyfrannu erthyglau i Action, cylchgrawn y Ffasgwyr. Arweiniodd ei haelodaeth, ynghyd â'i chysylltiad ag aelodau blaenllaw eraill o'r Undeb, fel Syr Oswald Mosley, at orchymyn atal dros dro o dan reoliad amddiffyn cyfnod yr Ail Ryfel Byd ar 11 Gorffennaf 1940. Roedd hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar ei symudiadau a'i chyfathrebu, ond ni chafodd ei charcharu. Er iddi ofyn sawl tro am i'r cyfyngiadau cael eu codi gwrthod bu ymateb y Swyddfa Gartref pob tro.[9]

Marwolaeth golygu

Ychydig a wyddys am Allen ar ôl y rhyfel hyd at ei marwolaeth, er ei bod yn ymddangos iddi gael ei derbyn i'r eglwys Gatholig ym 1953. Ni phriododd ac ni fu iddi blant. Ym 1959 aeth i fyw i gartref nyrsio, yn Ne Croydon, lle y bu hyd iddi farw o thrombosis yr ymennydd ac arteriosglerosis yr ymennydd yn 86 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Allen, Mary Sophia (1878–1964), police officer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-39176. Cyrchwyd 2019-09-23.
  2. "MARY SOPHIA ALLEN, 1878-1964". Women's History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-10. Cyrchwyd 23 Medi 2019.
  3. Diane, Atkinson (2018). Rise up, women! : the remarkable lives of the suffragettes. London: Bloomsbury. pp. 152, 182. ISBN 9781408844045. OCLC 1016848621.
  4. Allen, Mary Sophia (1936). Lady in Blue. Llundain: Stanley Paul.
  5. "Mary Allen". Spartacus Educational. Cyrchwyd 2019-09-23.
  6. "Allen, Mary Sophia (1878–1964) | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2019-09-23.
  7. Boyd, Nina,. From suffragette to fascist : the many lives of Mary Sophia Allen. Stroud. ISBN 9780752489179. OCLC 827267105.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. "The History Press | Mary Sophia Allen: Suffragette to fascist". www.thehistorypress.co.uk. Cyrchwyd 2019-09-23.
  9. Gottlieb, Julie V. (2003). Feminine fascism : women in Britain's fascist movement, 1923-1945. London: I.B. Tauris. ISBN 1860649181. OCLC 51483070.