Athronydd o Loegr oedd Mary Warnock, y Farwnes Warnock (14 Ebrill 192420 Mawrth 2019)[1] sy'n nodedig am ei gwaith ym moeseg, y meddwl, ac addysg, yn ogystal â dirfodaeth.

Mary Warnock
GanwydHelen Mary Wilson Edit this on Wikidata
14 Ebrill 1924 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 2019 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethathronydd, academydd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, prifathro, pennaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadArchibald Edward Wilson Edit this on Wikidata
MamEthel Mary Schuster Edit this on Wikidata
PriodGeoffrey Warnock Edit this on Wikidata
PlantKathleen Warnock, Felix Geoffrey Warnock, James Marcus Alexander Warnock, Stephana Warnock, Grizell Maria Warnock Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Albert, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol, Cydymaith Anrhydeddus Edit this on Wikidata

Mae'n fwyaf adnabyddus am adroddiad pwyllgor ymchwil (a fu'n aredig y tir ar gyfer y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990) a gadeiriodd. Gwasanaethodd fel Meistres Coleg Girton, Caergrawnt o 1984 i 1991.

Addysg a choleg golygu

Ganed Helen Mary Wilson yng Nghaerwynt ar 14 Ebrill 1924, yr ieuengaf o saith o blant. Roedd ei mam Ethel yn ferch i'r bancwr a'r ariannwr llwyddiannus Felix Schuster. Bu farw ei thad, Archibald Wilson, cyn ei geni ac ni phriododd ei mam eilwaith.[2][3][4][5][6]

Mynychodd sawl ysgol gan gynnwys St Swithun's School, Prior's Field cyn astudio'r clasuron yn Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen.[7][8] Cafodd ei hastudiaethau eu rhewi yn ystod y rhyfel; ymunodd â byddin Lloegr ac fe'i rhoddwyd i addysgu am ddwy flynedd yn Ysgol y Merched Sherborne yn Dorset. Dychwelodd i Rydychen a graddiodd yn 1948.

O 1949–66, roedd Warnock yn gymrawd ac yn diwtor mewn athroniaeth yng Ngholeg St Hugh's, Rhydychen lle cyfarfu â'i darpar ŵr Geoffrey Warnock, a oedd yno'n gymrawd o Goleg Magdalen. O 1966 i 1972, roedd yn Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Rhydychen i Ferched, gan roi'r gorau i'r swydd pan benodwyd ei gŵr yn brifathro Coleg Hertford, Rhydychen.

Gwaith dros achosion da golygu

Oherwydd ei chefndir fel addysgwr, penodwyd Warnock ym 1974 i gadeirio ymchwiliad y DU ar addysg arbennig. Daeth ei hadroddiad, a gyhoeddwyd ym 1978, â newid sylfaenol yn y maes, trwy roi pwyslais ar addysgu plant ag anableddau dysgu yn y prif ffrwd a chyflwyno system o "ddatgan" plant er mwyn iddynt gael hawl i gymorth addysgol arbennig.

Roedd Warnock yn aelod o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol o 1972–83. Yn 1980, cafodd ei hystyried yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y BBC.

Yn 2008, achosodd Warnock, a fu'n eiriolwr ymroddedig i ewthanasia, cryn ddadl oherwydd ei barn y dylai pobl â Gorddryswch (dementia) gael yr hawl i ddewis marw os oeddent yn teimlo eu bod yn "faich i'w teulu neu'r wladwriaeth".[9][10]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o'r Academi Brydeinig am rai blynyddoedd. [11][12][13][14]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (1983), Medal Albert (1998), Cymrawd yr Academi Brydeinig (2000), Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol (2011), Cydymaith Anrhydeddus (2017)[15][16] .


Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jane O'Grady, "Lady Warnock obituary", The Guardian (21 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Mary Warnock". ffeil awdurdod y BnF. "[Helen] Mary Wilson". "Helen Mary Wilson, Baroness Warnock". The Peerage. "Mary Warnock". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: https://www.theguardian.com/books/2019/mar/21/lady-warnock-obituary. "Mary Warnock". ffeil awdurdod y BnF.
  5. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  6. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  7. Brown, Andrew (19 Gorffennaf 2003). "The practical philosopher". The Guardian. Cyrchwyd 11 Hydref 2011.
  8. "The House I Grew up In featuring Mary Warnock". The House I Grew Up In. 2008-09-17. BBC. BBC Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/thehouseigrewupin/pip/0ayop/.
  9. Beckford, Martin (19 Medi 2008). "Baroness Warnock: Dementia sufferers Mai have a 'duty to die'". Telegraph. Cyrchwyd 3 Chwefror 2009.
  10. "Dementia patients' 'right-to-die'". BBC News. Cyrchwyd 3 Medi 2009.
  11. Alma mater: http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  12. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
  13. Aelodaeth: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  14. Anrhydeddau: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019. http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  15. https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  16. http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.