Bardd a dramodydd Seisnig oedd Mary Darwall (gynt Whateley, 17385 Rhagfyr 1825) a ysgrifennai weithiau fel Harriett Airey. Fe'i magwyd yn Swydd Gaerwrangon. Bu hi’n byw mewn sawl lle yn Lloegr ar hyd ei hoes, ond rai blynyddoedd wedi marwolaeth ei gŵr, symudodd i’r Drenewydd am gyfnod. Emynydd a bardd oedd ei gŵr, John Darwall, ac roedd ganddo yntau ei wasg ac roedd wedi cyhoeddi sawl cyfrol o’i gerddi ei hun.[1][2]

Mary Whateley
Ganwyd1738 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1825 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Gwaith golygu

Cyhoeddodd Mary ddwy gyfrol o gerddi, sef Original Poems on Several Occasions yn 1764, ac yna Poems on Several Occasions yn 1794. Cyhoeddodd yr ail yn ystod ei chyfnod yng Nghymru, ac ynddi mae cerdd a ysgrifennwyd am ei ymweliad â Gregynog wedi’i dyddio 1 Gorffennaf 1794. Mae’r gerdd hon wedi ei chyhoeddi ddwywaith eto gan Wasg Gregynog.

Cyfeiriadau golygu

  1. ‘Oxford Dictionary of National Biography’ http://www.oxforddnb.com/ (cyrchwyd Ebrill 2015); Mary Whateley, Written on walking in the woods of Gregynog in Montgomeryshire (Gregynog, 1924).
  2. Glyn Tegai Hughes, Prys Morgan, J. Gareth Thomas, Gregynog (Caerdydd, 1977); Glyn Tegai Hughes, Gregynog (Y Drenewydd, 1988).