Mary Wynne Warner

mathemategydd

Mathemategydd Cymreig oedd Mary Wynne Warner (22 Mehefin 19321 Ebrill 1998) oedd yn arbenigo mewn mathemateg niwlog (fuzzy mathematics).[1][2] Nododd ei hysgrif goffa ym Mwletin Cymdeithas Fathemategol Llundain mai topoleg niwlog oedd "y maes lle'r oedd hi'n un o'r arloeswyr ac fe'i cydnabyddir fel un o'r bobl flaenllaw dros y tri deg mlynedd diwethaf."[3]

Mary Wynne Warner
GanwydMary Wynne Davies Edit this on Wikidata
22 Mehefin 1932 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1998 Edit this on Wikidata
Sbaen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Andrzej Białynicki-Birula Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • City, Prifysgol Llundain
  • Coleg Bedford Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLattices and lattice-valued relations in biology Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Mary Wynne Davies yng Nghaerfyrddin, Cymru, yn ferch hynaf i Sydney ac Esther Davies. Magwyd hi yn Llanymddyfri, lle'r oedd ei thad yn ysgolfeistr. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Breswyl Howell's yn Ninbych.[4]

Enillodd ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, lle bu'n canolbwyntio ar dopoleg yn ei astudiaethau mathemategol gyda Henry Whitehead, gan ennill gradd ail ddosbarth yn 1953[5]. Astudiodd am ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Warsaw, gyda thraethawd hir yn dwyn y teitl "The Homology of Cartesian Product Spaces" (1966).

Gyrfa golygu

Lluniwyd gyrfa Mary Wynne Warner gan aseiniadau diplomyddol ei gŵr. Gwnaeth ymchwil yn Beijing, pan oedd ei gŵr yn gweithio yno. Gyda phenodiad diplomyddol arall yn Rangoon, bu'n dysgu mathemateg uwch. Am gyfnod yn ystod y 1970au, roedd ganddi swyddi dysgu mewn dwy brifysgol yn Kuala Lumpur. Yn ystod cyfnodau estynedig yn Lloegr, bu'n dysgu ym Mhrifysgol Dinas Llundain, lle ddaeth o'r diwedd yn athro yn 1996.

Bywyd personol golygu

Priododd Mary Wynne Davies diplomydd a swyddog cudd-wybodaeth Syr Gerald Warner yn 1956. Roedd ganddynt tri o blant, Sian (g. 1958), Jonathan (g. 1959), a Rachel (g. 1961), pob un wedi eu geni mewn gwahanol wledydd. Bu farw yn 1998, yn Sbaen, yn 65 oed. Claddwyd hi ym mynwent eglwys Kemerton lle'r oedd dau o'i blant eisoes wedi eu claddu.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. M. W. Warner, "Fuzzy topology with respect to continuous lattices," Fuzzy Sets and Systems 35(1)(1990): 85–91. doi:10.1016/0165-0114(90)90020-7
  2. M. W. Warner, "Towards a Mathematical Theory of Fuzzy Topology" in R. Lowen and M. R. Roubens, eds., Fuzzy Logic: State of the Art (Springer 1993): 83–94. ISBN 9789401048903
  3. 3.0 3.1 I. M. James and A. R. Pears, "Obituary: Mary Wynne Warner (1932–1998)" Bulletin of the London Mathematical Society 34(6)(December 2001): 745–752. DOI: 10.1112/S0024609302001467
  4. J. J. O'Connor and E. F. Robertson, "Mary Wynne Warner" Archifwyd 2017-02-02 yn y Peiriant Wayback. Mathematical Genealogy Project, School of Mathematics and Statistics, University of St. Andrews, Scotland (October 2003).
  5. James, I. M.; Pears, A. R. (2002-11). "MARY WYNNE WARNER (1932–1998)" (yn en). Bulletin of the London Mathematical Society 34 (06): 745–752. doi:10.1112/S0024609302001467. ISSN 0024-6093. http://doi.wiley.com/10.1112/S0024609302001467.