Y Mashriq neu'r Mashreq (hefyd: Mashrek) (Arabeg: مشرق) yw'r enw Arabeg traddodiadol ar ranbarth o wledydd Arabaidd yn y Dwyrain Canol, i'r dwyrain o'r Aifft ac i'r gogledd o Arabia. Daw'r enw o'r gwreiddyn Arabeg sh-r-q (ش ر ق) yn ymwneud â chyfeiriad y Dwyrain a'r Wawr, ac mae'n golygu yn syml 'Y Dwyrain' neu, yn fwy llythrennol, 'lle cyfyd yr haul'.

Map o'r Mashriq

Defnyddir y gair gan yr Arabiaid i gyfeirio at ardal eang yn y Dwyrain Canol rhwng gwledydd y Lefant ar lan y Môr Canoldir yn y gorllewin i'r ffin ag Iran yn y dwyrain. Cyfetyb felly i'r maghrib (مغرب), sef "Y Gorllewin", enw traddodiadol gwledydd Gogledd Affrica. Gorwedd Yr Aifft yn y canol rhwng y ddau ranbarth hyn; er ei bod yn agosach i'r Maghreb yn ddiwyllianol ac yn ieithyddol mae'n cael ei chynnwys weithiau yn y Mashriq neu'n sefyll ar wahân. Weithiau mae Swdan hefyd yn cael ei chynnwys yn y Mashriq. Mae'r ddau enw fel ei gilydd yn dyddio o gyfnod y goresgyniad Islamaidd. Mae'r Mashriq (heb yr Aifft) yn gyfateb yn fras i Bilad al-Sham, ond yn cynnwys hefyd Irac.

Gwledydd y Mashriq golygu

Hefyd weithiau:

Gweler hefyd golygu