Matharn

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Matharn (Saesneg: Mathern). Yr enw gwreiddiol oedd Merthyr Tewdrig.[1]). Saif tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Cas-gwent, a ger traffordd yr M48. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 990.

Matharn
Eglwys Sant Tewdrig, Matharn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6182°N 2.6917°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001074 Edit this on Wikidata
Cod OSST522912 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[3]

Hanes a hynafiaethau golygu

Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Tewdrig. Yn ôl yr hanes a geir yn Llyfr Llandaf, roedd Tewdrig yn frenin teyrnasoedd cynnar Gwent a Glywysing. Tua'r flwyddyn 620 neu 630, ymladdodd yn erbyn y Sacsoniaid ger Tyndyrn, gyda'i fab Meurig ap Tewdrig. Gorchfygwyd y Sacsoniaid, ond clwyfwyd Tewdrig yn y frwydr, a dygwyd ef yma, lle bu farw wedi i'w glwyfau gael eu golchi yn y ffynnon. Dywedir i Meurig roi'r tiroedd o amgylch yn rhodd i Esgob Llandaf er coffa am ei dad. Plas Matharn oedd unig gartref Esgob Llandaf am ganrifoedd. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 15g. Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor gan Francis Godwin, Esgob Llandaf 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.[1]

Yn y gymuned yma mae pentref adfeiliedig Runston, sydd yn awr yng ngofal Cadw.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Matharn (pob oed) (1,056)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Matharn) (96)
  
10.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Matharn) (508)
  
48.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Matharn) (143)
  
33.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979)
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]