Matthew Rhys

actor a aned yn 1974

Actor Cymreig yw Matthew Rhys Evans sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw proffesiynol Matthew Rhys (ganwyd 8 Tachwedd 1974).[1][2] Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kevin Walker yn y ddrama deledu Americanaidd Brothers & Sisters, Phillip Jennings yn The Americans ac fel Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love.

Matthew Rhys
GanwydMatthew Rhys Evans Edit this on Wikidata
8 Tachwedd 1974 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor Edit this on Wikidata
PriodKeri Russell Edit this on Wikidata
PartnerKeri Russell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Rhys yng Nghaerdydd, yn fab i Glyndwr, prifathro oedd yn hanu o Bennal, a'i wraig Helen, athrawes o Sir Benfro. Treuliodd ei blentyndod yn y brifddinas, yn mynychu ysgolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn 17 mlwydd oed, ar ôl chwarae Elvis Presley mewn sioe gerdd yn yr ysgol, fe'i derbyniwyd i'r Royal Academy of Dramatic Art (RADA) yn Llundain. Wedyn, yn 1993 fe'i gwobrwywyd gydag ysgoloriaeth Patricia Rothermere. Mynychodd chwaer Rhys, Rachel, RADA ar yr un pryd ag ef, ac mae hi bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ddarlledu i'r BBC.

Ei gysylltiadau â Phatagonia golygu

Yn y flwyddyn 2000, ymwelodd Rhys â Phatagonia er mwyn darganfod capeli Cymreig ac er mwyn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan drigolion y wlad.[3] Tra yno, cafodd afael ar gopi o ddyddiadur y Cymro John Murray Thomas a aeth i Batagonia ar ddiwedd y 19g wrth i nifer o Gymry allfudo i Batagonia. Yn 2005 dychwelodd Rhys i Batagonia am yr eildro ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad wrth ddisgynyddion y Rifleros i olrhain y daith a wnaed gan y Cymry flynyddoedd ynghynt.

Yn 2010, cyhoeddodd lyfr lluniau Patagonia: Croesi'r Paith yn seiliedig ar y profiad.

Bywyd personol golygu

Am bron i ddeng mlynedd bu Matthew yn rhannu tŷ yn Llundain gyda'i gyd-actor Ioan Gruffudd,[4] a roedd yn was priodas iddo ym mhriodas Gruffudd..[5] Mae'r ddau yn noddwyr i Trust PA, elusen anafiadau i'r cefn.[6]

Ar 15 Gorffennaf 2008, urddwyd Matthew yn Gymrawd gan Brifysgol Aberystwyth.[7] Ar 8 Awst 2008 yn Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008, fe'i urddwyd yn aelod o'r Orsedd [8] am ei gyfraniad i'r Gymraeg a Chymru. Ei enw barddol yn yr Orsedd yw Matthew Tâf. Yn Awst 2009, ymddangosodd Matthew ar lwyfan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol.[9]

Mae Matthew wedi bod mewn perthynas gyda Keri Russell, ei gyd-seren ar The Americans ers 2013.[10][11] Ganwyd eu plentyn cyntaf gyda'i gilydd ar ddiwedd Mai 2016.[12][13]

Ffilmyddiaeth golygu

Film golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1999 Titus Demetrius
1999 Whatever Happened to Harold Smith? Ray Smith
2001 The Lost World Edward Malone
2001 Very Annie Mary Nob
2002 Deathwatch Cpl. Doc Fairweather
2002 The Abduction Club James Strang
2002 Shooters Eddie
2003 P.O.W Alfie Harris
2003 Columbo Likes the Nightlife Justin Price
2003 Y Mabinogi Lleu Llaw Gyffes
2004 Fakers Nick Edwards
2006 Love and Other Disasters Peter Simon
2006 Beau Brummell: This Charming Man Lord Byron
2007 Virgin Territory Count Dzerzhinsky
2008 The Edge of Love Dylan Thomas
2009 The Think Tank Marc Ffilm fer
2010 Patagonia Mateo
2011 Everything Carries Me To You Damien Ffilm fer
2012 The Scapegoat John Standing/Johnny Spence
2015 En mai, fais ce qu'il te plait Percy
2015 Burnt Reece
2017 Jungle Book: Origins John Lockwood
2019 A Beautiful Day in the Neighborhood Lloyd Vogel
2019 The Report Gohebydd gyda'r New York Times

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2000 A History of Britain N/A Rhai penodau
2006–2011 Brothers & Sisters Kevin Walker 109 pennod
2012 The Mystery of Edwin Drood John Jasper 2 bennod
2013 Death Comes to Pemberley Mr Darcy 3 pennod
2013–present The Americans Philip Jennings 39 pennod
Enwebwyd— Gwobr Deledu "Critics' Choice" am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama (2013–15)
Enwebwyd—Gwobr "Television Critics Association" am Gyflawniad Unigol mewn Drama(2013–15)
2015 The Bastard Executioner Gruffudd y Blaidd 4 pennod
2015 Archer Lloyd Llewellyn Pennod: "Achub y Morfilod"
2015 The Bastard Executioner Gruffudd y Blaidd / The Wolf 4 pennod
2016–2018 The Wine Show Ei hun (cyd-gyflwyno)
2017 Girls Chuck Palmer Pennod: "American Bitch"
2017 Snowdonia 1890 N/A
2018 Down the Caravan Dai Ffilm deledu
2018 Death and Nightingales Billy 3 pennod
2019 Infinity Train Aloysius / Alrick (llais) 2 bennod
2019 BoJack Horseman Justin Kenyon (llais) Pennod: "A Quick One, While He's Away"
2019 Carpool Karaoke: The Series Ei hun (cyd-gyflwyno) Cyfres 2, pennod 17
2020 Perry Mason Perry Mason Hefyd yn gynhyrchydd gweithredol

Gwobrau ac enwebiadau golygu

Blwyddyn Gwobr Categori Gwaith enwebwyd Canlyniadau
2013 Gwobr Teledu y Critics' Choice Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama
The Americans
Enwebwyd
Gwobr TCA Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama Enwebwyd
2014 Gwobr Teledu y Critics' Choice Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama Enwebwyd
Gwobr TCA Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama Enwebwyd
2015 Gwobr Teledu y Critics' Choice Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama Enwebwyd
Gwobr TCA Gwobr TCA am Gyflawniad Unigol mewn Drama Enwebwyd
2016 Gwobr Primetime Emmy Gwobr Primetime Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama Enwebwyd
2017 Gwobr Teledu y Critics' Choice Gwobr Teledu y Critics' Choice am Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama I'w benderfynu
Gwobr Satellite Gwobr Satellite am Actor Gorau – Cyfres Ddrama Deledu I'w benderfynu
2018 Gwobr Emmy Gwobr Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama Buddugol[14]

Cyfeiriadau golygu

  1. Matthew Rhys yn IMDb Adalwyd ar 31-10-2010
  2. Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd; 8 Tachwedd 2014
  3. Matthew Rhys’ new book, ‘Patagonia gets under your skin’ Wales Online. 20-11-2010. Adalwyd ar 04-12-2010
  4. "MyBrent.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-29. Cyrchwyd 2021-02-20.
  5. icWales
  6. "Welsh actors help spinal charity". bbc.co.uk. 26 Hydref 2002. Cyrchwyd 1 Ebrill 2014.
  7. Aberystwyth News Online
  8. "Hollywood star Rhys joins druids"
  9. "Performing with National Youth Orchestra". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2016-12-12.
  10. Gillian Telling (26 Rhagfyr 2013). "Keri Russell and Matthew Rhys: Are They Dating?". People. Cyrchwyd 2015-09-16.
  11. John Ortved (30 Ebrill 2015). "Oliver Jeffers's Art of Bearing Witness". The New York Times. Cyrchwyd 2015-09-16.
  12. "Keri Russell Gives Birth, Welcomes First Child With 'Americans' Costar Matthew Rhys!". usmagazine.com. 30 Mai 2016. Cyrchwyd 2016-05-30.
  13. "Keri Russell Reveals Name and Sex of Her First Child with Matthew Rhys – and Says the Baby Is Doing 'So Good'". celebritybabies.people.com. 1 Gorffennaf 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 2016-07-23.
  14. "Emmy winners 2018: the full list". theguardian.co.uk. 18 Medi 2018. Cyrchwyd 18 Medi 2018.