Maudie Edwards

actores a aned yn 1906

Actores, digrifwraig a chantores o Gymru oedd Elizabeth Maud (Maudie) Edwards (16 Hydref 190624 Mawrth 1991). Mae hi'n cael ei chofio yn bennaf am chwarae rhan Elsie Lappin, y cymeriad cyntaf i yngan llinell o ddeialog yn yr opera sebon Coronation Street.[1]

Maudie Edwards
Ganwyd16 Hydref 1906 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1991 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Edwards yn 16 Florence Street, Castell-nedd, yn ferch i Edward Rees (Ned) Edwards, gweithiwr tunplat, a Mary Ann (née Anthony) ei wraig. Er bod y ddau riant yn siaradwyr Cymraeg, magwyd eu plant yn uniaith Saesneg.[2] Yn ogystal â gweithio yn y gwaith tun roedd Ned yn ategu at incwm y teulu trwy berfformio act comedi a dawns gyda Maudie a'i chwaer hyn May yn Theatr Vints Palace Castell-nedd Ned Edwards and his Two Little Queenies.

Bu'n briod ddwywaith, ei gwr cyntaf oedd Ralph Zeiller, teiliwr o Gastell Nedd wedi i'r briodas torri priododd Col Bill Foulks

Gyrfa golygu

Ymddangosodd Edwards ar y sgrin fawr am y tro cyntaf, yn y ffilm Flying Doctor ym 1936, wedi hynny bu'n ymddangos mewn llawer o ffilmiau eraill hyd 1972, pan fu'n chware rhan Mrs Utah Watkins yn ffilm Under Milk Wood gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor. Yn ogystal â chware rhannau cymeriadau mewn ffilmiau bu hi hefyd yn trosleisio rhannau canu ar gyfer actoresau eraill megis Diana Dors a Margaret Lockwood. Rhwng y 1920au a'r 1950au bu Edwards yn ymddangos mewn sioeau variety ar hyd a lled Prydain fel Maudie Edwards the The Modern Comedienne, fel arfer yn weddol isel ar y rhestr; uchafbwynt yr agwedd hon o'i gyrfa oedd ymddangos gyda Frank Sinatra aMax Miller am bythefnos yn y London Palladium ym 1950.

Bu Edwards yn un o sêr y gyfres radio ysgafn Welsh Rarebit, rhaglen a ddarlledwyd rhwng 1940 a 1944 ar gyfer milwyr o Gymru oedd yn gwasanaethu yn yr Ail Rhyfel Byd, adferwyd y rhaglen fel rhaglen i gynulleidfa cyffredinol rhwng 1948 a 1951.

Yn y 1950au bu gwaith llwyfan Edwards yn bennaf gysylltiedig â theatrau Abertawe, ymddangosodd mewn panto yn Theatr y Grand rhwng 1951 a 1953 yn chware rhan y prif ddyn, bu'n arwain cwmni actorion stoc The Maudie Edwards Reperotory Company a fu'n chware yn Theatr y Grand am ddau dymor cyn symud i chware yn Theatr y Palace, Abertawe ar ôl i Edwards cael ffrae am arian gyda rheolwyr y Grand.[3]

Ymddangosodd yn y ddwy bennod gyntaf o'r opera sebon Coronation Street ym 1960 fel Elsie Lappin cyn-berchennog y siop mae hi ar fin trosglwyddo i Florrie Lindley. Llinell agoriadol y rhaglen gyntaf oedd Elsi yn dweud wrth Florrie "Now the next thing you've got to do is to get a signwriter in - that thing above the door'll have to be changed."[4]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Llundain yn 84 mlwydd oed[5]

Ymddangosiadau ffilm a theledu golygu

  • The Flying Doctor (1936)
  • My Learned Friend (1943)
  • The Shipbuilders (1943)
  • I'll Be Your Sweetheart (1945)
  • Query (1945)
  • Pink String and Sealing Wax (1945)
  • Walking on Air (1946)
  • School for Randle (1949)
  • Girdle of Gold (1952)
  • Take a Powder (1953)
  • The Strange World of Planet X (cyfres teledu 1956)
  • The Errol Flynn Theatre (cyfres teledu 1956)
  • Life at Stake (1957)
  • The Ugly Duckling (1959)
  • Coronation Street (cyfres teledu 1960)
  • The Edgar Wallace Mystery Theatre (cyfres teledu 1961)
  • The Clue of the New Pin (1961)
  • Only Two Can Play (1962)
  • Dixon of Dock Green (cyfres teledu 1962)
  • Band of Thieves (1963)
  • Burke & Hare (1971)
  • Under Milk Wood (1972)

Youtube golygu

  • Bywgraphiad gan Theatr y Grand [3]
  • Rhifyn cyntaf Coronation Street [4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Archives Hub Maudie Edwards Archive [1] adalwyd 24 mawrth 2016
  2. Cyfrifiad 1911 ar gyfer 71 Britonferry Road Castell-nedd Yr Archif Genedlaethol RG78PN1863 RD592 SD2 ED14 SN113
  3. Theatr y Grand Maudie Edwards
  4. IMBd Maudie Edwards
  5. Herbert Williams, "Maudie Edwards", The Independent, 5 Ebrill 1991: 14. The Independent Digital Archive, 1986-2012. [2]; adalwyd 24 Mawrth 2016