Maurice Barrès

nofelydd ac athronydd Ffrengig

Awdur a gwleidydd Ffrengig oedd Maurice Barrès (19 Awst 18625 Rhagfyr 1923).

Maurice Barrès
Ganwyd19 Awst 1862 Edit this on Wikidata
Charmes Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • lycée Henri-Poincaré
  • Ysgol Uwchradd La Malgrange Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, seat 4 of the Académie française Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBoulangism, Republican Federation Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf) Edit this on Wikidata
PlantPhilippe Barrès Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Alfred Née Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Charmes yn département Vosges. Addysgwyd ef yn Nancy, mewn lycée ac yna'r brifysgol. Symudodd i ddinas Paris yn 1882, lle sefydlodd gylchgrawn Les Taches d'Encre yn 1884. Daeth yn adnabyddus pan gyhoeddwyd tair cyfrol o nofelau hunagofiannol Le Culte du moi rhwng 1888 a 1891. Etholwyd ef yn aelod o'r Académie française yn 1906.

Roedd hefyd yn amlwg yn wleidyddol, gan roi pwyslais ar genedlaetholdeb Ffrengig. Gwrthwynebai'r duedd i or-ganoli (a gynrychiolid gan ddinas Paris) gan ddadlau fod y genedl wedi ei ffurfio o deuluoedd, pentrefi a rhanbarthau, a bod gwarchod hunaniaeth y rhain yn bwysig. Etholwyd ef i'r senedd dros ran o Baris yn 1906. Bu'n cydweithio gyda Charles Maurras, sefydlydd yr Action française, ond yn wahanol iddynt hwy, nid oedd Barrès o blaid brenhiniaeth.

Gweithiau golygu

Nofelau golygu

Drama golygu

  • Une journée parlementaire, comedi mewn tair act. – Paris : Charpentier et Fasquelle, 1894

Llyfrau taith golygu

Gweithiau gwleidyddol golygu

Bu'n gyfrirfol am ddatblygu, neu chydnabod a rhoi enw i'r cysyniad o cenedl titiwlar sef, rôl a brait, prif genedl o fewn i wladwriaeth, yn enwedig gwladwriaeth ag iddi fwy nag un genedl neu phobl o draddodiad ac iaith gwahanol. Datblygodd hyn yn sgil Achos Dreyfus yn yr 1890au.

  • Étude pour la protection des ouvriers français. – Paris : Grande impr. parisienne, 1893 [1] Archifwyd 2003-12-31 yn y Peiriant Wayback.
  • Scènes et Doctrines du nationalisme – Paris : Juven, 1902
  • Les Amitiés françaises. – Paris : Juven, 1903
  • La Grande pitié des églises de France. – Paris : Émile-Paul, 1914
  • Une visite à l'armée anglaise. – Paris : Berger-Levrault, 1915 Document électronique Archifwyd 2003-12-31 yn y Peiriant Wayback.
  • Les Diverses familles spirituelles de la France. – Paris : Émile-Paul, 1917 [2] Archifwyd 2003-12-31 yn y Peiriant Wayback.
  • L'Ame française et la Guerre (chroniques). – Paris : Émile-Paul, 1915-1920
  • Faut-il autoriser les congrégations? Les Frères des écoles chrétiennes. – Paris : Plon-Nourrit, 1923 [3] Archifwyd 2003-12-31 yn y Peiriant Wayback.
  • Souvenirs d'un officier de la Grande armée, par [Jean-Baptiste-Auguste Barrès] ; publiés par Maurice Barrès, son petit-fils. – Paris : Plon-Nourrit, 1923 [4] Archifwyd 2003-12-31 yn y Peiriant Wayback.
  • La République ou le Roi, Correspondance Barrès-Maurras, édition établie par Guy Dupré, Plon 1965.

Cyfeiriadau golygu