Maurine Dallas Watkins

Newyddiadurwraig a dramodydd Americanaidd oedd Maurine Dallas Watkins (27 Gorffennaf 189610 Awst 1969).

Maurine Dallas Watkins
Ganwyd27 Gorffennaf 1896, 1901 Edit this on Wikidata
Louisville Edit this on Wikidata
Bu farw10 Awst 1969, 1969 Edit this on Wikidata
Jacksonville, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, sgriptiwr, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Louisville, Kentucky a mynychodd Ysgol Uwchradd Crawfordsville, cyn mynd i bum coleg gwahanol (gan gynnwys Coleg Hamilton, Prifysgol Transylvania, Coleg Butler (Indianapolis), a Choleg Radcliffe). Ar ôl ei gyfnod yn y colegau hyn, cafodd swydd fel newyddiadurwr gyda'r Chicago Tribune.

Tra'n gweithio fel newyddiadurwr, gweithiodd ar ddau lofruddiaeth ym 1924 ac achos llys Belva Gaertner, cantores cabaret a Beulah Sheriff Annan. Canolbwyntiodd Watkins ar elfennau cyffrogarol y ddwy achos, dwy "jazz babies" a gafodd eu harwain ar gyfeiliorn gan ddynion ac alcohol, a phortreadodd Beulah fel y "beauty of the cell block" a Belva fel "most stylish of Murderess Row."

Adroddodd Watkins am achos enwog Leopold a Loeb ond yn fuan wedi hyn gadawodd byd newyddiaduriaeth er mwyn ysgrifennu dramâu, gan astudio ym Mhrifysgol Yale o dan arweiniad George Pierce Baker. Tra yno, ysgrifennodd hanes y ddau achos ar ffurf ffuglen, gan ei alw'n wreiddiol "The Brave Little Woman", yna "Play Ball" (y fersiwn hawlfraint cyntaf: sgript cyn-gynhyrchu), ac yn olaf "Chicago". Daeth Beulah Annan yn "Roxie Hart", Belva Gaertner "Velma Kelly", Albert Annan "Amos Hart", a chyfunwyd y ddau gyfreithiwr, William Scott Stewart a W. W. O'Brien, i greu cymeriad "Billy Flynn". (Ymddengys mai O'Brien oedd y tebygrwydd agosaf).

Ysgrifennodd Watkins tua ugain o ddramâu, ond "Chicago" oedd y mwyaf llwyddiannus. Teithiodd i Hollywood i ysgrifennu sgriptiau, gan gynnwys y comedi Libeled Lady (1936) gyda William Powell, Myrna Loy, Jean Harlow, a Spencer Tracy.

Diflannodd Watkins o fyd y theatr yn ystod y 1940au. Dioddefodd o gancr ar ei wyneb a adawodd creithiau ac erbyn 1968, prin y'i gwelwyd o gwbl tu allan i'w fflat. Daeth yn Gristion a gadawodd ei ffortiwn o dros $2,300,000 i gynnal cystadlaethau a chadeiriau mewn astudiaethau Beiblaidd mewn rhyw ugain prifysgol, gan gynnwys Princeton.

Ffilmograffiaeth golygu

Dolenni allanol golygu