Cymuned yn Sir Abertawe, Cymru, yw Mawr. Saif ar dir bryniog i'r gogledd o Langyfelach. Cafodd ei enw gan mai'r tir yma oedd y darn mwyaf o dir yn hen blwyf Llangyfelach.

Mawr
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,850 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,780.82 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.709°N 3.984°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000581 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRebecca Evans (Llafur)
AS/auTonia Antoniazzi (Llafur)
Map

Mae'r gymuned yn cynnwys Craig-cefn-parc, Felindre a Penlle'r Castell. (Felindre ydy prif bentref y gymuned.) Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,800 yn 2001, gyda 56.27% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg, y ganran uchaf yn sir Abertawe.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mawr (pob oed) (1,850)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mawr) (686)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mawr) (1504)
  
81.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Mawr) (253)
  
33%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Ward etholiadol golygu

Defnyddir yr enw hefyd fel enw'r ward etholiadol.

 
Ward etholiadol Mawr

Etholiadau'r cyngor lleol 2012 golygu

Yn etholiadau'r cyngor lleol yn 2012, 44.82% oedd y canran a bleidleiswyd. Dyma oedd y canlyniadau:

Ymgeisydd Plaid Pleidleisiau Statws
Ioan Richard The People's Representative 295 Dalwyd gan The People's Representative
Rhys Aeron Jones Llafur 213
Linda Mary Frame Plaid Cymru 149

Cyfeiriad at yr ardal yn y cyfryngau golygu

Yn ôl cyfweliad gyda'r bardd Dyfan Lewis[7]:

"Yn anffodus, mae ein naratifau ni ynghylch Cymru ddim o reidrwydd yn galluogi ocsigen i lefydd fel hyn i fodoli, achos rydych chi naill ai yn y de diwydiannol Saesneg neu yn y gorllewin neu’r gogledd amaethyddol Cymraeg gyda rhai pobol...

Dyw [ardal Mawr] ddim wedi newid rhyw lawer; mae’n dal i fod yn gymuned Gymraeg...

Ond dw i’n poeni o fewn y degawd neu ddau nesaf y bydd hi’n newid i fod yn faestref o Abertawe.

Bydd natur y gymuned yn newid, oherwydd fe fydd pobol ddim yn gweld y gymuned fel rhywbeth ar wahân i Abertawe, ac yn jyst yn ei gweld hi fel rhywle i barcio’u car a mynd iddi ar ôl diwrnod yn gweithio yn y ddinas."

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  7. https://golwg360.cymru/newyddion/cefn-gwlad/551997-bardd-ifanc-eisiau-dathlu-ardal-eithriadol-craig