Dramodydd a nofelydd Swisaidd oedd Max Rudolf Frisch (15 Mai 19114 Ebrill 1991) sydd yn nodedig am ei bortreadau o gyfyng-gynghorau moesol ym mywyd yr 20g. Dylanwadwyd arno yn gryf gan Bertolt Brecht a Thornton Wilder, ac mae nifer o'i ddramâu—yn eu plith Andorra (1961)—yn ymwneud â ffawd dyn a'r trafferthion o'i sylweddoli yn y gymdeithas gyfoes.

Max Frisch
Max Frisch, tua 1974.
Ganwyd15 Mai 1911 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1991 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
Man preswylZürich, Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • ETH Zurich
  • Prifysgol Zurich Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, pensaer, dramodydd, nofelydd, dyddiadurwr, sgriptiwr, athronydd, newyddiadurwr, cofiannydd, bardd Edit this on Wikidata
Arddulldrama, rhyddiaith Edit this on Wikidata
PriodGertrud Frisch-von Meyenburg, Marianne Frisch Edit this on Wikidata
PartnerIngeborg Bachmann, Käte Schnyder-Rubensohn Edit this on Wikidata
PlantUrsula Priess Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Georg Büchner, Gwobr Conrad Ferdinand Meyer, Gwobr Wilhelm Raabe, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Schiller, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Heinrich Heine Prize, Charles Veillon prize in the German language, Gwobr Jeriwsalem, Gwobr y Gymanwlad am Wasanaeth Rhagorol, honorary doctor of the University of Birmingham, Honorary doctor of the Technical University of Berlin Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Zürich, y Swistir. Astudiodd lenyddiaeth Almaeneg ym Mhrifysgol Zürich, ond ym 1933 gadawodd y brifysgol heb ennill ei radd er mwyn cychwyn ar yrfa fel newyddiadurwr. Teithiodd ar draws de a dwyrain Ewrop o 1934 i 1936, cyn ddychwelyd i Zürich i astudio pensaernïaeth. Gwasanaethodd ym myddin y Swistir yn yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, gweithiodd yn bensaer tra'n ysgrifennu yn ei amser rhydd.[1]

Drama foes yw ei waith cyntaf a berfformiwyd ar y llwyfan, Nun singen sie wieder (1945), sydd yn defnyddio tablos swrealaidd i ddadlennu safbwyntiau rhyfelwyr a dioddefwyr yn ystod y rhyfel. Mae ei ddramâu eraill yn cyfnod cychwynnol ei yrfa yn cynnwys y ddwy felodrama hanesyddol Die chinesische Mauer (1947) ac Als der Krieg zu Ende war (1949), yr esiampl dreisgar o feirniadaeth gymdeithasol Graf Öderland (1951), a'r addasiad o chwedl Don Juan, Don Juan oder die Liebe zur Geometrie (1953). Rhodd Frisch y gorau i bensaernïaeth ym 1955 i lenora llawn-amser.[1]

Mae dramâu eraill Frisch yn cynnwys y ddrama ddamhegol Biedermann und die Brandstifter (1958), Andorra (1961), a Biografie (1967). Mae ei nofelau cynnar yn cynnwys Stiller (1954), Homo Faber (1957), a Mein Name sei Gantenbein (1964), sydd yn portreadu agweddau ar fywyd deallusol modern ac yn archwilio thema hunaniaeth. Mae ei nofelau diweddar yn cynnwys Montauk: Eine Erzählung (1975), Der Mensch erscheint im Holozän (1979), a Blaubart (1982). Cyhoeddodd hefyd sawl gwaith hunangofiannol, gan gynnwys day ddyddiadur, Tagebuch 1946–1949 (1950) a Tagebuch 1966–1971 (1972).

Bu farw Max Frisch yn Zürich o ganser yn 79 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Max Frisch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2022.
  2. (Saesneg) "Noted Swiss Author Max Frisch Dead at 79", Associated Press (4 Ebrill 1991). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Hydref 2022.