Ffenomen seicolegol sy'n digwydd o fewn i grŵp o bobl yw meddwl grŵp (Saesneg: groupthink); mae'r dyhead am harmoni neu gydymffurfiaeth yn arwain at wneud penderfyniadau afresymol neu gamweithredol. Mae aelodau'r grŵp yn ceisio lleihau effaith gwrthdaro a chyrraedd penderfyniad ar y cyd heb asesiad beirniadol o wahanol safbwyntiau. Gwneir hynny trwy atal safbwyntiau anghydsyniol ac ynysu eu hunain rhag dylanwadau allanol.

Nodweddion golygu

Mae meddwl grŵp yn gwneud i unigolion osgoi codi materion dadleuol neu gynnig datrysiadau amgen, ac mae'n arwain at golli creadigrwydd, unigrywiaeth a meddwl annibynnol mewn unigolion. Mae deinameg camweithredol y grŵp ("y grŵp mewnol") yn creu "rhith o anhyglwyfedd" (gor-sicrwydd bod y penderfyniad cywir wedi'i wneud). Mae gan y grŵp lawer gormod o feddwl o'i allu ei hun wrth wneud penderfyniadau ac yn meddwl yn rhy isel o allu ei wrthwynebwyr ("y grŵp allanol"). Ymhellach, gall meddwl grŵp arwain at weithredoedd dad-ddyneiddiol yn erbyn y grŵp allanol.

Mae ffactorau rhagflaenol fel undod grŵp, strwythur grŵp diffygiol, a chyd-destun amgylchiadol (e.e. panig cymunedol) yn dylanwadu ar y tebygolrwydd o feddwl grŵp yn effeithio ar y proses o wneud penderfyniadau. 

Dyfais seicoleg gymdeithasol yw meddwl grŵp, ond mae'n ymestyn yn eang ac yn dylanwadu ar lenyddiaeth ym meysydd astudiaethau cyfathrebu, gwyddor gwleidyddiaeth, rheolaeth, a theori trefniadaethol,[1] yn ogystal ag agweddau pwysig o ymddygiad gwyrdröedig cwltiau crefyddol.[2]

Dywedir weithiau bod meddwl grŵp yn digwydd o fewn i grwpiau naturiol yn y gymdeithas. Gall esbonio, er enghraifft, gwahaniaethau gydol oes yn ffordd o feddwl pobl sy'n arddel gwahanol safbwyntiau gwleidyddol (e.e. "ceidwadaeth" a "rhyddfrydiaeth" yng nghyd-destun gwleidyddol yr UDA [3])  neu fuddion tybiedig gweithio fel aelod o dim neu weithio yn unigol.[4] Fodd bynnag, nid yw'r cydymffurfiaeth sahbwyntiau hwn o fewn i grwp yn gysylltiedig gyda gwneud penderfyniadau bwriadol ar y cyd, ac efallai bod y duedd i gytuno rhwng aelodau unigol o'r grŵp yn well esboniad ohono.

Cafodd y rhan fwyaf o'r ymchwil cychwynnol ar feddwl grŵp ei gynnal gan Irving Janis, seicolegydd o Brifysgol Yale.[5] Cyhoeddodd Janis gyfrol ddylanwadol yn 1972, a adolygwyd yn 1982.[6] Defnyddiodd Janis drychineb Bae'r Moch (y methiant i gipio Ciwba Castro yn 1961) a'r ymosodiad Siapaniaidd ar Pearl Harbor yn 1941 fel y ddwy brif astudiaeth achos. Mae astudiaethau diweddarach wedi asesu ac ailffurfio ei fodel meddwl grŵp.[7][8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Turner, M. E.; Pratkanis, A. R. (1998). "Twenty-five years of groupthink theory and research: lessons from the evaluation of a theory". Organizational Behavior and Human Decision Processes 73 (2–3): 105–115. doi:10.1006/obhd.1998.2756. https://pdfs.semanticscholar.org/b2c3/caa9b3b63b701706429e15191c89d2d87aac.pdf. Adalwyd 2018-10-09.
  2. Wexler, Mark N. (1995). "Expanding the groupthink explanation to the study of contemporary cults". Cultic Studies Journal 12 (1): 49–71. http://www.icsahome.com/articles/expanding-the-groupthink-explanation-csj-12-1. Adalwyd 2018-10-09.
  3. "Does Liberal Truly Mean Open-Minded?". psychologytoday.com.
  4. Cain, Susan (January 13, 2012). "The rise of the new groupthink". New York Times.
  5. Janis, I. L. (November 1971). "Groupthink". Psychology Today 5 (6): 43–46, 74–76. http://apps.olin.wustl.edu/faculty/macdonald/GroupThink.pdf.
  6. Janis, I. L. (1972). Victims of Groupthink: a Psychological Study of Foreign-Policy Decisions and Fiascoes. Boston: Houghton Mifflin. ISBN 0-395-14002-1.
  7. 't Hart, P. (1998). "Preventing groupthink revisited: evaluating and reforming groups in government". Organizational Behavior and Human Decision Processes 73 (2–3): 306–326. doi:10.1006/obhd.1998.2764.
  8. McCauley, C. (1989). "The nature of social influence in groupthink: compliance and internalization". Journal of Personality and Social Psychology 57 (2): 250–260. doi:10.1037/0022-3514.57.2.250. https://archive.org/details/sim_journal-of-personality-and-social-psychology_1989-08_57_2/page/250.