Merfyn Frych

brenin Gwynedd

Roedd Merfyn Frych, neu Merfyn Frych ap Gwriad (bu farw 844), yn frenin Gwynedd ar ddechrau'r 9g.

Merfyn Frych
Ganwyd8 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw844 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd, Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd Edit this on Wikidata
RhagflaenyddHywel ap Rhodri Molwynog Edit this on Wikidata
TadGwriad ap Elidyr Edit this on Wikidata
MamEthyllt ferch Cynan Edit this on Wikidata
PriodNest ferch Cadell Edit this on Wikidata
PlantRhodri Mawr, Gwriad ap Merfyn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif Crux Guriat. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r 9g, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma. Efallai fod ei hawl ar orsedd Gwynedd trwy ei fam Esyllt, merch Cynan ap Rhodri Molwynog.

Gwnaeth Merfyn gynghrair â theulu brenhinol Powys trwy briodi'r Dywysoges Nest, merch Cadell ap Brochfael a chwaer Cyngen, brenin Powys. Er gwaethaf ymosodiadau gan y Daniaid, llwyddodd Merfyn i ddal ei afael ar ei deyrnas ac ar ei farwolaeth yn 844 daeth ei fab Rhodri Mawr yn frenin yn ei le.

Cyfeiriadau golygu

O'i flaen :
Hywel ap Rhodri Molwynog
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Rhodri Mawr ap Merfyn


     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.