Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu Merthyr (gwahaniaethu).

Merthyr (o'r Lladin martyr) yw un sy'n marw dros ei (h)egwyddorion, ei ffydd neu rhywbeth y mae'n credu ynddo. Yn wreiddiol defnyddid y gair mewn cyd-destun Cristnogol i ddisgrifio credadyn sy'n barod i ddioddef angau dros ei ffydd yn hytrach nag ymwrthod â hi. Mae'r gair heddiw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n dioddef angau yn enw crefyddau eraill, e.e. Bwdhaeth, neu yn enw argyhoeddiadau gwleidyddol a.y.y.b. Merthyroleg yw'r gair am astudio hanes merthyron.

Ystyron eraill golygu

Ail ystyr y gair "merthyr" yn y Gymraeg yw "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)." Fe'i gwelir yn yr enwau lleoedd Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr (i gyd yn ne Cymru).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1.  merthyr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021. Gweler merthyr2.

Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.


Chwiliwch am merthyr
yn Wiciadur.